Coed

Llifogydd yw un o’r risgiau mwyaf mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Mae gwir angen addasu. Mae gwir angen meithrin gwytnwch o ran llifogydd hefyd. Nod y sesiwn hon fyddai codi ymwybyddiaeth, ysgogi ymgysylltiad ehangach ar gyfer y ddadl rheoli risg llifogydd ac addasu er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â rhannu safbwyntiau posibl ynghylch rheoli’r risg o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd y sesiwn hon yn ystyried yr heriau allweddol a’r opsiynau ar gyfer rheoli risg llifogydd yng Nghymru a sut mae angen i bob lefel o lywodraeth, cyrff cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac unigolion weithio gyda’i gilydd i addasu a lliniaru effeithiau hinsawdd newidiol.

Prosiect Ecosystemau Afonydd Gwy, Ieithon a Hafren (WISE) ariennir gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy wedi gweithio gyda phartneriaeth sydd wedi’i hen sefydlu yn y dalgylch, gan gynnwys tirfeddianwyr a chymunedau lleol, i wella’r adnoddau naturiol mewn tirwedd eang yn nalgylch afon Gwy. Bydd y gwaith yn cynnwys gwella cyflwr pridd tir amaethyddol, creu coetir i fanteisio i’r eithaf ar y posibilrwydd o leihau perygl llifogydd, gwella cynefinoedd i hybu bioamrywiaeth ac i wella ansawdd dŵr, a gwella’r seilwaith ar glosydd fferm i leihau llygredd. 

Nod y prosiect oedd annog cymunedau gwledig a busnesau amaethyddol yn yr ardal i ddeallt sut y gallant wella ecosystemau dros gyfnod a deallt y gwasanaethau y mae’r ecosystemau hynny’n eu darparu, ac sy’n allweddol i’r ymdrech i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a llifogydd. Yn ei dro, bydd hynny’n creu cyfleoedd i wella iechyd a lles. 

Roedd y prosiect hefyd yn cefnogi ac yn cyflawni ar bob un o'r isod: 

  • Prosiect yn cyflwyno gweithdai i dros 170 o blant a staff addysgu
  • Darparodd y Prosiect Reoli Pori i 72 o ffermydd
  • Galluogodd ein partneriaeth â'r Woodland Trust i ni sicrhau 5,710 o goed
  • Cefnogir 34.8 hectar o goetir 
  • Mae prosiect WISE wedi ymgysylltu â dros 275 o fusnesau fferm ledled dalgylchoedd Gwy, Ithon a Hafren
  • Gwnaed dros 700 o argymhellion ar draws yr holl ddalgylchoedd ym mhrosiect WISE i wella manteision cyfalaf naturiol.
  • Ymgysylltodd 1255 o randdeiliaid
  • 8 swydd Wedi'i diogelu

Ymuwch a'r digwyddiadau yma: https://freshwater.eventscase.com/CY/COPCymru21/Programme

Mae Cyflymu camau gweithredu i reoli risg llifogydd Cymru mewn hinsawdd newidiol (Gan Cyfoeth Naturiol Cymru) ymlaen 12:45 - 13:45

Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy'n rhan o'r Cynllun Cydweithredu a Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi sy'n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.