![delwedd o gacennau Cymraeg wedi'u pobi yn cael eu cynhyrchu](/walesruralnetwork/sites/walesruralnetwork/files/styles/post_full/public/images/Photo%20-%20RBIS%20-%20Food%20-%20Welsh%20Cake%20-%20VILLAGEBAKERY09%20%282%29_1.jpg?itok=cb5JkJ-I)
21 Medi 2020 - 21 Medi 2020
Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus rhithiol ar ei Chynllun Gweithgynhyrchu ddydd Llun 21 Medi 2020, 11.00 – 13.00. Bydd y cynllun yma’n seiliedig ar egwyddorion Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ac yn amgyffred gwersi a ddysgwyd wrth ddelio â phandemig Covid-19.
Caiff lansiad yr ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Gweithgynhyrchu o dan y teitl Fframwaith Gweithredu ei chynnal gan Jamie Owen, a bydd siaradwyr uchel eu bri o’r diwydiant a Ken Skates, AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn bresennol.
Byddem yn gwerthfawrogi eich meddyliau. Mae cofrestru am ddim, cofrestrwch yma.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ar-lein yn cael eu cynnal wedi’r lansiad yn ystod y pedair wythnos dilynol, er mwyn creu cyfle i bobl fynegi eu barn ynghylch y Cynllun a chyfrannu at y fersiwn derfynol. Cyhoeddir manylion cychwynnol am y gweithdai ymgynghori rhithiol ar 21 Medi.