Peat evening cym

Ydych chi'n berchen ar ardal o fawndir neu'n ei reoli? Hoffech chi wybod mwy am gynlluniau carbon? Hoffem glywed eich syniadau ar ddyfodol mawndiroedd a chyfleoedd ariannu yng Nghymru.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio gyda Chanolfan Garbon Crichton a Phrifysgol Bangor i gasglu barn ar fawndiroedd gan y rhai sy'n eu hadnabod orau: tirfeddianwyr, ffermwyr a thenantiaid.

Ymunwch â nhw yn Clwb Rygbi Dolgellau, Dydd Llun 2il o Fawrth i drafod manteision a heriau rheoli ac adfer mawndiroedd. Byddwn yn gofyn beth yw eich barn am eich mawndiroedd ac yn bwrw ymlaen â'ch syniadau i lywio'r cynllun amaeth-amgylchedd newydd.