Mae Coleg Ceredigion, gyda chefnogaeth Cynnal y Cardi, wedi cwblhau astudiaeth ddichonoldeb gyda'r sector adeiladu yng Ngheredigion.
Dylunio Eich Dyfodol yw ganlyniad yr astudiaeth. Edrychodd i mewn i nodi'r bwlch sgiliau a deall anghenion y sector lleol. Edrychodd hefyd ar ddadansoddi a datblygu dulliau newydd o weithio i fodloni gofynion cynyddol y diwydiant. Gwnaeth hyn gyda'r bwriad o ddatblygu cwricwlwm i ddiwallu anghenion y sector yng Ngheredigion.
Nododd Kevin Harrington, o Perspectif ac Antur Teifi, dri maes allweddol i gefnogi datblygiad y sector wrth symud ymlaen: Prinder sgiliau, parodrwydd ar gyfer gwaith ac adeiladu perthnasoedd.
Uchafbwynt cwblhau'r adroddiad Dylunio Eich Dyfodol oedd cynhadledd lle rhannwyd y canfyddiadau. Roedd hefyd yn gyfle i wahanol randdeiliaid yn y sector adeiladu rwydweithio a rhoi adborth ar sut i symud ymlaen.
Wedi'i hariannu gan Cynnal y Cardi a'i chyflwyno gan Ben Lake, A.S, roedd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr yn ymdrin ag ystod o bynciau. Roeddent yn cynnwys Tai Gwledig gan Tai Ceredigion; Adfywio yng Ngheredigion gan Gyngor Sir Ceredigion; Cyllid ar gyfer Hunan-Adeiladu gan Fanc Datblygu Cymru; Prentisiaethau gan CITB; a Phrentisiaethau Cyfrannol gan Cyfle Building Skills.
Mae trafodaethau ar gyfer y camau nesaf wedi cychwyn, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith sy'n cynnwys Rhanddeiliaid allweddol ledled Ceredigion. Mae hyn er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a recriwtio yn y diwydiant adeiladu. Mae hefyd angen sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigir yn unol â thueddiadau a blaenoriaethau ehangach ar gyfer y sector.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio,
“Mae'r ymchwil o'r prosiect hwn yn bwysig iawn i'r sector adeiladu yng Ngheredigion. Mae yna elfennau llwyddiannus o gyflwyniad cyfredol y rhaglen brentisiaeth yng Ngheredigion. Fodd bynnag, mae angen gwella trwy ddull mwy cydgysylltiedig rhwng y sectorau adeiladu ac addysg. Gall adroddiad a sefydlu’r rhwydwaith greu newid cadarnhaol a sylweddol i’r sector adeiladu yn ei gyfanrwydd yng Ngheredigion a helpu i gryfhau economi Ceredigion.”
Nod Cynnal y Cardi, grŵp Gweithredu Lleol LEADER, yw cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig. Gweinyddir y Grŵp gan Gyngor Sir Ceredigion a chyllidwyd drwy raglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan a Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.