Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar fferm Gwastadanas ar 12 Awst 2019, ble mae Bedwyr Jones a’i deulu wedi bod yn astudio effeithlonrwydd ei fuches fagu Aberdeen Angus.
Bydd Rhidian Jones o 5agri sydd wedi bod yn rhan o’r posiect yn bresennol i drafod;
- Pwysigrwydd astudio effeithlonrwydd eich buches
- Gosod targedau, a sut i’w cyflawni
- Sut i waredu BVD o fewn eich buches
Bydd cerdded y caeau yn rhan o’r digwyddiad i weld y fuches felly bydd angen esgidiau addas arnoch.
Bydd lluniaeth ar gael felly mae archebu lle yn hanfodol.
Mae dyddiad a lleoliad y digwyddiad fel a ganlyn:
Gwastadanas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NW
Am rhagor o wybodaeth neu i archebu eich lle, cysylltwch â Gwion Parry – 07960261226
Gwion.parry@menterabusnes.co.uk
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.