Ystrad Fflur Banner

Mae Ystrad Fflur yn fan cyfareddol ym mherfeddwlad orllewinol Cymru yng nghesail Mynyddoedd Cambria. Mynachlog Sistersaidd ydoedd ar un tro mewn tirwedd sydd wedi bod o bwysigrwydd ysbrydol dirfawr i bobl Cymru ers mil o flynyddoedd.

The conserved ruins of the old Abbey church and part of the cloisters are in the care of Cadw, the Welsh Government's heritage agency, and can be visited by the public from Easter to late autumn. In fact, these remains are only a small fraction of what was once a much larger Abbey stretching over an area of 126 acres where the rest survives below ground as a well-preserved archaeology.

Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wedi prynu’r cymhlyg o adeiladau fferm hanesyddol, sy’n dwyn yr enw Mynachlog Fawr, ac sy’n sefyll yn syth i gyfeiriad y dde o’r gofadail. Mae’n cynnwys tŷ a arferai fod yn gartref i deulu bonedd y Stedmans, a oedd yn berchen ar safle’r Abaty ar ôl Diddymiad 1539. Yn nes ymlaen, daeth yn fferm a redwyd gan y teulu Arch.
 
Saif y rhain i gyd mewn tirwedd ryfeddol o hanesyddol sy’n cynnwys gweddillion helaeth o weithgarwch dynol sy’n cynnwys gwaith mynachod yr Abaty ei hun. Mae llwybrau troed a theithiau cerdded treftadaeth sy’n tywys yr ymwelydd allan i goetir, ar hyd glannau afonydd, i fyny’r mynyddoedd ac ar ymyl Cors mawr Caron.

Saif adfeilion yr Abaty ychydig i gyfeiriad y dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron yng Ngheredigion, ac ar ymyl gorllewinol Mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy RCDF Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ceir rhagor o fanylion ynghyd Strata Florida

Strata Florida ar Heno - Ionawr 2019 (English subtitles).