Katy Harris and Cath Cave

Mae elusen sy’n gweithredu ledled y DU wedi cael £1.5 miliwn i fynd i’r afael â phrosiect a fydd yn gwella iechyd a llesiant ar hyd a lled Cymru trwy ddarparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn rhaglenni awyr agored sy’n seiliedig ar natur.

Mae’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain yn elusen sy’n gweithredu ledled y DU. Lleolir ei phencadlys yn Swydd Amwythig ac mae ei chanolfan ar gyfer Cymru ym Machynlleth. Fe’i ffurfiwyd ym 1988 fel sefydliad cenedlaethol ar gyfer coetiroedd bychain, ac mae wedi cael llwyddiant blaenorol wrth reoli prosiectau coedwigoedd cymdeithasol, yn ogystal â hyrwyddo dulliau cynaliadwy o reoli coetiroedd bychain er budd y gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi.

Ers 2010, mae Coed Lleol wedi bod yn cynnal gweithgareddau iechyd a llesiant trwy gyfrwng ei raglen Coed Actif Cymru. Bydd yr arian yn helpu Coed Lleol i ddatblygu mannau gwyrdd a hybiau coedwig arloesol a fydd yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion cymunedau lleol mewn perthynas â rhagnodi cymdeithasol, gweithgareddau cymunedol, hyfforddiant a meithrin sgiliau, a chyfoethogi a diogelu’r amgylchedd lleol.

Yn ôl Katy Harris, Rheolwr Cyllid a Chyfathrebu: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn – bydd yn amhrisiadwy o ran cefnogi, datblygu a chyfoethogi’r gwaith pwysig rydym yn ei gyflawni eisoes ledled Cymru.

“Mae gweithgareddau iechyd a llesiant awyr agored sy’n seiliedig ar natur yn llwyddiannus dros ben o ran cynorthwyo pobl i oresgyn yr heriau lu a ddaw i’w rhan yn sgil anhwylderau sy’n gysylltiedig â’u ffordd o fyw, fel gordewdra a diffyg ymarfer corff; a hefyd o ran gwella’u lles meddyliol ac emosiynol.

“Mae’r cyfle i ddod i gysylltiad â natur mewn coedwig yn brofiad gwirioneddol fuddiol, ac mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli y gall profiad o’r fath gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.”

Yn sgil yr arian, bydd modd i Coed Lleol gydweithio â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector elusennol, gan ddwyn ynghyd arbenigedd o amryfal gefndiroedd i weithio mewn sawl lleoliad yn cynnwys Gwynedd, Ynys Môn, Sir Ddinbych/Sir y Fflint, Wrecsam, Ceredigion, Sir Benfro, y Rhondda a Merthyr.

Caiff y prosiect Cymru gyfan, a elwir yn Iechyd Awyr Agored a Seilwaith Gwyrdd, ei ariannu gan y Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, sef rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ymhellach, mae’r prosiect yn cael arian cyfatebol gan y Gronfa Iach ac Egnïol a gaiff ei rhedeg gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Coed Lleol yng Nghymru, ewch i https://www.smallwoods.org.uk/cy/coedlleol/