glastir

Mae'r ffenestri Datgan Diddordeb bellach ar agor tan 10 May 2019

Grantiau bach Glastir (tirwedd a pheillwyr)

Mae rhaglen gwaith cyfalaf Grantiau Bach Glastir ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru er mwyn cynnal prosiectau fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion tirwedd traddodiadol, a darparu cysylltiad gyda chynefin pryfed peillio.  

Bydd eitemau Gwaith Cyfalaf yn cynnwys ‘Prif’ Waith a Gwaith ‘Ategol’. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ‘Prosiect’. 

Mae’r Thema Tirwedd a Pheillwyr yn cynnig Gwaith Cyfalaf a ddewiswyd am eu bod yn dod â budd bras a chyffredinol i’r amgylchedd a’u gallu i wireddu uchelgeisiau
Llywodraeth Cymru.

Waith Cyfalaf Canllaw Technelog Tirwedd a Pheillwyr

Creu Coetir Glastir (GWC)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i blannu mwy o goed yng Nghymru trwy GWC er mwyn sicrhau amrywiaeth eang o fanteision, i:-

  • Cysgod i stoc ac adeiladau adeg tywydd mawr
  • Rheoli symudiadau da byw trwy ffensio a phlannu mannau anhygyrch fel llethrau serth
  • Tyfu cyflenwad cynaliadwy o bren a choed tân e.e. ar gyfer adeiladau a ffensys
  • Creu cynefinoedd natur
  • Lleihau’r perygl o lifogydd ym mhen isa afonydd a rhwystro pridd rhag cael ei olchi i gyrsiau dŵr
  • Sgrinio llygredd sŵn e.e. o ffyrdd a rheilffyrdd

Rheolau a Chanllawiau

Adfer Coetir Glastir

Mae Adfer Coetir Glastir yn golygu ymrwymiad o 10 mlynedd a bwriad cynllun Coetir Glastir yw cyflawni'r nodau amgylcheddol a ganlyn:

  • Cyfrannu at wrthdroi'r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru
  • Cynyddu naturioldeb Coetir Hynafol sydd wedi cael ei blannu yn unol a strategaeth Coetiroedd i Cymru.
  • Lleihau allyriadau Carbon a Nwyon Tŷ Gwydr.
  • Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a meithrin mwy o gydnerthnedd ar ffermydd ac mewn busnesau coedwigo.
  • Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
  • Cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd ffermydd, coedwigoedd a'r gymuned wledig ehangach.
  • Amddiffyn y tirwedd a'r amgylchedd hanesyddol gan wella mynediad ar yr un pryd.

Rheolau a Chanllawiau