Gall wrea wedi’i ddiogelu fod yn adnodd allweddol i leihau allyriadau ffermio glaswelltir ond mae treialon ar fferm dda byw yng Nghymru wedi tynnu sylw at ddiffygion posibl yn ei berfformiad yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych.

Mae Rhiwaedog, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger y Bala, am wella effeithlonrwydd nitrogen a chynyddu maint ac ansawdd y glaswellt a dyfir er mwyn dibynnu llai ar borthiant a brynir i mewn – o fis Mai i fis Gorffennaf gwerthwyd 600 o ŵyn Texel croes, rhoddwyd dwysfwyd i’r rhan fwyaf ohonynt am gost o £8/oen.

"Rydyn ni’n or-ddibynnol ar besgi ŵyn o'r bag, rydyn ni am leihau cymaint o gostau â phosibl a’u pesgi oddi ar y borfa,'' dywedodd Aled Jones wrth ffermwyr oedd yn gwylio darllediad byw o Riwaedog, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio.

"Rydyn ni eisiau gwario llai ar ddwysfwydydd a defnyddio glaswellt i'w botensial gorau bosibl.''

Fodd bynnag, trwy ddefnyddio dwysfwyd, llwyddodd y busnes i gael prisiau uwch yn gynnar yn y tymor, ac i gau mwy o gaeau ar gyfer silwair.

Ond ychwanegodd Aled: "Gyda'r 1,600 o ŵyn sy'n weddill hoffem allu eu gorffen i gyd oddi ar laswellt, gwreiddiau a glaswellt wedi’i ail-hadu a pheidio â defnyddio dwysfwyd."

Bu'r teulu'n gweithio gyda Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol , ar brosiect sy'n ceisio dod o hyd i atebion ar gyfer hynny.  

Un o'r prosiectau y maent wedi cychwyn arno yw cymharu perfformiad gwahanol ffynonellau nitrogen (N) – Amoniwm Nitrad (AN), sydd â chynnwys N o 34.5% ac wrea ac wrea wedi'i ddiogelu, y ddau â chynnwys N o 46%.

Mae'r wrea wedi’i ddiogelu yn ceisio lleihau nwy amonia a gollir wrth i'r wrea droi'n amoniwm a nitrad sydd ar gael i’r planhigyn oherwydd, mewn amodau anffafriol, mae’n bosibl i 70% o nitrogen wrea gael ei golli i'r atmosffer.

Ar 11 Ebrill 2020, rhoddwyd wrea ac wrea wedi'i ddiogelu ar dir pori ar gyfradd o 85kg/hectar, gan gyflenwi 40kgN/ha.

Ar ôl pedair wythnos, roedd uchder y glaswellt yn y borfa lle rhoddwyd wrea wedi’i ddiogelu yn 31cm o'i gymharu â 23cm lle rhoddwyd yr wrea arferol – cynnydd o 30% mewn twf, gan ddangos ei fod wedi cadw N.

Yn ogystal â'r budd amgylcheddol, mae lleihau faint o nitrogen a gollir i'r atmosffer ar ffurf amonia ac ocsid nitrws yn sicrhau budd ariannol clir, wrth i fwy o nitrogen aros yn y pridd a hybu tyfiant.

Ond pan dreialwyd wrea wedi’i ddiogelu yn erbyn amoniwm nitrad ar dir silwair yn Rhiwaedog yn ystod y gwanwyn sych eleni, nid oedd ei berfformiad yr hyn y dylai fod.

Fe'i rhoddwyd ar 15 Mai, ar gyfradd o 185kg/ha,  gydag amoniwm nitrad yn cael ei wasgaru ar gyfradd o 250kg/ha - felly, y ddau yn cyflenwi 86kgN/ha.

Ar 22 Mehefin, roedd y cae lle rhoddwyd yr amoniwm nitrad wedi cynhyrchu 5,050kgDM/ha o laswellt ond dim ond 4,120kgDM/ha a gynhyrchwyd lle rhoddwyd wrea wedi’i ddiogelu - 20% yn llai.

Dywedodd Mr Duller wrth ffermwyr a oedd yn gwrando ar y darllediad byw o’r Fferm Arddangos mai rheswm posibl am hyn oedd bod y cyfnod sych hirfaith wedi torri i lawr haen amddiffynnol y peledi. 

Dywedodd fod mwy nag un astudiaeth yn Iwerddon wedi dangos bod wrea wedi’i ddiogelu’n sicrhau lefel gyfatebol o nitrogen i amonium nitrad felly byddai mwy o dreialon yn cael eu cynnal yn Rhiwaedog.

Mae'r fferm hefyd yn tyfu gwndwn aml-rywogaeth gan ddefnyddio cymysgedd uchel o godlysiau a pherlysiau gyda dim ond 4% o rygwellt.

Eglurodd Mr Duller y gall ffermwyr, mewn cynlluniau stiwardiaeth yn Lloegr, gael gafael ar gymhorthdal o £300/ha ar gyfer tyfu'r gwndwn amrywiol hyn.

"Dydi’r gwndwn ddim yn rhad i’w dyfu a dydi o ddim mor syml â hynny i'w reoli, felly byddwn yn monitro sut maen nhw'n perfformio yn yr hinsawdd a'r cyfundrefnau rheoli yn Rhiwaedog,'' meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.