Sheep Farmer Sees Benefits of Data-Driven Approach

Mae amaethyddiaeth sy’n dibynnu i raddau helaeth ar ddata yn cael ei hyrwyddo fel ffordd allweddol o sicrhau bod ffermio defaid yng Nghymru mor broffidiol a chynaliadwy â phosibl, ynghyd â chael yr iechyd gorau posibl i ddiadelloedd.

Mae un ffermwr yn Ne Cymru, sy'n rhan o brosiect iechyd-anifeiliaid rhagweithiol sy'n cynnwys dros 250 o ffermydd, yn gweld sawl mantais mewn pwyso da byw yn rheolaidd ar ôl ŵyna yn y gwanwyn.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn hyrwyddo mesur cynnydd pwysau byw bob dydd fel rhan o'r prosiect Stoc+ sy'n un llinyn o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP). Mae Stoc+ yn fenter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o gymell ffermwyr i fod yn rhagweithiol wrth gynllunio iechyd eu diadelloedd a buchesi er mwyn cael sector cig coch mwy proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru.

Dywedodd Dr. Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC, sy'n arwain prosiect Stoc+: 

Dr Rebekah Stuart, HCC Flock and Herd Health Executive

“Gall ffermwyr weld nifer o fanteision o fonitro perfformiad eu hŵyn. Bydd pwyso ŵyn yn rheolaidd yn helpu ffermwyr i amcangyfrif faint o ddyddiau fydd eu hangen i orffen eu pesgi.  Bydd hefyd yn fodd i werthuso perfformiad yr ŵyn o ran bwydo, a chanfod a yw unrhyw newidiadau o ran reoli yn cael effaith."

“Bydd monitro twf yr ŵyn yn rheolaidd yn sicrhau bod modd canfod unrhyw broblemau ac ŵyn sy’n perfformio’n wael yn gynnar a gellir addasu yn unol â hynny.  Bydd hefyd yn helpu i reoli parasitiaid a allai fod yn amharu ar dwf yr ŵyn.”

Fel rhan o brosiect Stoc+, mae'r tîm wedi dewis nifer o lysgenhadon sy'n cynnwys ffermwyr a milfeddygon. Maen nhw’n annog eraill i gymryd rhan ac maen nhw’n dangos y buddion ymarferol sy’n deillio o gynllunio iechyd yn rhagweithiol – megis anifeiliaid iachach a ffermydd mwy proffidiol.

Mae Gwyn Johnson o Bontypridd yn un o’r ffermwyr sy’n lysgenhadon ac fe welodd amryw fudd o fonitro perfformiad ei ŵyn. Mae Mr Johnson, a edrychodd ar optimeiddio triniaethau gwrthlyngyrol yn ystod ei astudiaeth Ysgoloriaeth HCC yn 2012, yn ffermio ar dir uchel lle mae’n cadw 500 o famogiaid a 120 o ŵyn benyw amnewid. Mae hefyd yn gaeafu gwartheg stôr allan yn yr awyr agored.

Esboniodd: “Bydd yr ŵyn benyw amnewid yn cael eu pwyso a’u tagio adeg eu geni. Cofnodir yr wybodaeth hon mewn cronfa ddata Adnabod Electronig (EID) sydd wedi'i chysylltu â'r hwrdd. Caiff yr ŵyn benyw eu pwyso pan fyddan nhw’n wyth wythnos oed ac wedyn yn ysbeidiol cyn ac ar ôl eu diddyfnu."  

“Mae pwysau wyth-wythnos yr ŵyn yn rhoi syniad inni o rinweddau mamol eu mamau; yr ŵyn sydd â'r cynnydd pwysau mwyaf yn ddyddiol yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu cadw ar gyfer magu. Mae twf yr ŵyn benyw hefyd yn werthfawr o ran canfod sut mae'r prif grŵp o ŵyn yn perfformio. Mae cofnodi’r cynnydd pwysau byw yn ddyddiol yn arwydd o iechyd anifeiliaid da ac yn golygu bod modd amcangyfrif yn gywir sawl diwrnod sydd ei angen cyn bod yr ŵyn yn barod i’w lladd. Mae’r ddau hynny’n allweddol o ran cael diadell broffidiol.” 

Cefnogir Stoc+ gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.