Ieuan Evans mewn sied Milking

Mae menter Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwr ifanc yng Nghymru wrth iddo geisio penderfynu ynglŷn ag uwchraddio cyfleusterau godro’r fferm laeth deuluol.

Mae Ieuan Evans yn byw yn Rhiwarthen Isaf, Capel Bangor, lle mae ef a'i deulu yn ffermio 1,100 erw.

Maen nhw'n godro dwy uned 800 o wartheg gyda hanner y fuches yn
cael eu godro mewn parlwr rotari 44 pwynt a'r hanner arall mewn parlwr herringbone 20/40.

Wrth iddynt anelu at ehangu’r fuches, nid yw’r cyfleusterau yma’n addas ar eu cyfer.

Mae Ieuan yn credu y gallai godro robotig fod yn opsiwn ar gyfer y fferm. Yn 2019, gwnaed gais am fwrsari Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio er mwyn ymchwilio ymhellach i’r dechnoleg i’w helpu i ddod i benderfyniad, ynghyd â ffermwyr llaeth eraill sy’n ystyried uwchraddio eu cyfleusterau godro eu hunain.

" Mae godro robotig wedi cymryd camau breision dros y 10 mlynedd diwethaf, felly nawr yw’r amser i ddechrau ystyried awtomeiddio neu rannol-awtomeiddio ein systemau godro a phorthi,  er mwyn lleihau ein llwyth gwaith o ddydd i ddydd yn sylweddol,” meddai. 

"Mae ffermio'n cael ei weld fel diwydiant traddodiadol a hen ffasiwn ond mae angen i ni groesawu technoleg er mwyn ein cynorthwyo i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n bodloni tueddiadau modern gyda chwsmeriaid mewn modd cynaliadwy.’’

Gan fod ei deulu hefyd yn ceisio cynyddu capasiti storio slyri, roedd Ieuan yn awyddus i ddysgu o’r hyn a welodd ar y ffermydd y bu’n ymweld â nhw fel rhan o'r Gyfnewidfa Rheolaeth.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau i leihau effaith ein slyri ar yr amgylchedd drwy fuddsoddi mewn system wasgaru slyri drwy biben gyda chwistrellydd disg, ond mae mwy y gellir ei wneud,”

Meddai Ieuan.

"Rydym yn ceisio cynyddu ein capasiti storio slyri er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wasgaru pan fydd fwyaf buddiol i’r caeau, gyda llai o bosibilrwydd o drwytholchi.''

Fel rhan o’i daith astudio, bu Ieuan yn ymweld â Chanolfan Datblygu Llaeth Agri-Epi De-orllewin Lloegr yng Ngwlad yr Haf a Worthy Farm, Glastonbury, lle mae’r teulu Eavis wedi buddsoddi mwy na £2 filiwn mewn parlwr godro rotari robotig.

Bu hefyd yn ymweld â Bauernland AG yng ngorllewin yr Almaen, fferm laeth sy’n defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r parlwr godro rotari robotig DeLaval AMR, a Dendoldrum Farm yn Inverbervie, yr Alban, lle mae’r fuches gynhyrchiol iawn yn cael ei godro mewn saith ciwbicl godro robotig Lely Astronaut.

"Mae’n anodd credu heb weld drosoch eich hun - roedd rhai o’r technolegau a welais yn ystod fy ymweliadau’n cael eu hystyried yn gymhleth ac yn systemau ar gyfer y dyfodol, ond ar ôl edrych yn fanylach, mae’n bosibl rhannu’r rhain yn systemau mwy syml gyda gwahanol rannau’n cwblhau gwahanol dasgau,”

Meddai Ieuan.

Eto i gyd, mae gosod robotiaid mewn system laeth ar raddfa fawr yn gost “sylweddol”, ac mae’n dod i’r casgliad dylid ystyried o ddifrif cyn penderfynu buddsoddi. 

Ond mae'n credu y bydd y costau'n lleihau a bydd systemau a gweithrediadau godro robotig yn cynyddu gan eu gwneud yn fwy deniadol i ffermwyr.

Mae’r daith astudio wedi dangos i Ieuan nad oes modd cael gormod o ddata mewn systemau ffermio llaeth. 

"Mae'r defnydd cynyddol o dechnoleg ar ffermydd llaeth yn caniatáu ffermwyr i fesur mwy o elfennau ac i gofnodi llawer iawn o ddata fel na welwyd ei debyg o’r blaen,”

Meddai. 

“Os bydd y data’n cael ei ddadansoddi’n gywir gan y ffermwr/stocmon, bydd modd ei ddefnyddio fel adnodd gwerthfawr iawn a allai ganfod problemau hyd yn oed cyn iddynt godi.”

Mae Ieuan yn credu bod ymweld â ffermydd i weld beth mae ffermwyr eraill yn ei wneud yn werthfawr dros ben.

“Mae’n bosibl trosglwyddo’r holl dechnegau, systemau a dulliau a ddefnyddir ar ffermydd eraill o ddydd i ddydd er mwyn newid y ffordd yr ydych chi’n rhedeg eich fferm, gallai arbed ychydig eiliadau, munudau neu bunnoedd bob dydd. Mae gwybodaeth yn eich grymuso, ac mae ymweliadau fferm yn ffordd wych o drosglwyddo gwybodaeth,”

Meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.