Ben Williams

Mae ffermwr o gyffiniau Caerdydd yn un o 24 ffermwr mynydd sydd newydd ymuno â phrosiect ymchwil pwysig yng Nghymru i geisio gwella perfformiad diadelloedd defaid mynydd.

Croesawodd Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC) 24 ffermwr mynydd arall i’r prosiect yn 2020 er mwyn cael gwell cynrychiolaeth o ran natur a lleoliad y diadelloedd sy’n cymryd rhan. 

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn dod â'r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd tir uchel yng Nghymru, gyda'r nod o gryfhau sector defaid Cymru wrth wella bridio yn yr hirdymor a defnyddio data’n ddeallus. Mae buddsoddi mewn technoleg fridio o fantais hefyd i’r amgylchedd oherwydd mae’n lleihau’r allyriadau o amaethyddiaeth.

Mae’r diadelloedd newydd yn cwmpasu ystod o wahanol systemau a bridiau defaid mynydd ac fe'u dewiswyd gyda'r nod o adlewyrchu cynifer o systemau a bridiau â phosibl.

Mae Ben Williams a’i deulu, o Bentyrch ger Caerdydd, yn rhedeg fferm 550 erw, lle maen nhw’n cadw tua 800 o famogiaid Mynydd De Cymru.  Prif gymhellion y teulu yw gwella perfformiad y mamogiaid, a gwerthu hyrddod sydd â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau).

Esboniodd Mr Williams: “Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd wedi gwneud i ni edrych yn fanylach ar berfformiad ein diadell. Rydyn ni’n bwriadu defnyddio’r mamogiaid sy'n perfformio orau i fagu ein hanifeiliaid amnewid a pheidio â chadw ŵyn sydd wedi pesgi mor hir ar y fferm. Fedrwch chi ddim rheoli heb fesur.”

Dywedodd Heather McCalman, Cydlynydd Rhaglen HCC: “Rydyn ni wrth ein bodd â’r diddordeb sy’n cael ei ddangos yn y prosiect hwn i wella geneteg ar ffermydd mynydd. Oherwydd y diddordeb hwn, bu modd i ni gael ystod eang o fridiau defaid mynydd ledled Cymru."

“Mae’r sector mynydd yn hollbwysig i'r diwydiant defaid yng Nghymru a bydd gwella geneteg y diadelloedd mynydd hyn o fudd i'r sector defaid yn gyffredinol. Bydd y grŵp newydd hwn o ddiadelloedd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r diwydiant, ochr yn ochr â’r diadelloedd a oedd eisoes yn aelodau.”

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd  yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.