Yn ddiweddar bu Hybu Cig Cymru (HCC) yn croesawu grŵp o ffermwyr o Lydaw i ardal Aberystwyth er mwyn rhannu gwybodaeth am y ffordd y mae ffermwyr yng Nghymru yn pesgi eu hŵyn ar borfa. Roedd y grŵp hefyd am wybod mwy am reoli glaswellt – am fod yr hinsawdd yn Llydaw yn debyg i’r hyn ydyw yng Nghymru.

Fel rhan o'u hymweliad, a barodd am saith diwrnod, treuliodd y grŵp ddiwrnod cyfan gyda staff HCC a chafwyd cyflwyniadau am brosiectau cyfredol HCC, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP) sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, ac ymweliad â fferm Moelgolomen, Talybont.

Ar fferm Moelgolomen, croesawyd y grŵp gan y ffermwr Rhodri Lloyd-Williams a'i dad Simon. Mae’r teulu Lloyd-Williams yn enwog am ei ffordd arloesol o ffermio ar fryniau Bontgoch, ac roedd aelodau’r teulu’n awyddus i rannu gwybodaeth â'r grŵp. Dywedodd Rhodri Lloyd-Williams:

“Mae wedi bod yn bleser croesawu’r grŵp o Lydaw i’r fferm a gallu rhannu syniadau am gofnodi perfformiad a gwelliant genetig.  Mae’r ddau beth hyn yn helpu i gynhyrchu ŵyn sy’n cwrdd â gofynion y farchnad ac, ar yr un pryd, yn cynnal caledwch y bridiau mynydd cynhenid. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y diddordeb yn ystod yr arwerthiannau hyrddod, a chredwn fod hyn o ganlyniad i'r Cynllun Hyrddod Mynydd sydd wedi bod o fudd i’r diwydiant.”

Y Cynllun Hyrddod Mynydd, sy’n rhan o’r RMDP, yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y DU.  Ei fwriad yw cymell mwy o ffermwyr mynydd Cymru i ddefnyddio hyrddod â chofnodion perfformiad er mwyn cynhyrchu ŵyn sy'n ateb ystod eang o ofynion y farchnad gartref a thramor. Mae 29 o ffermydd yn rhan o'r cynllun hyd yn hyn, ac maen nhw’n amrywio o ran lleoliad, y math o ddiadell a maint y ddiadell.

Dywedodd James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, a fu’n tywys y grŵp yn ystod ei ymweliad â HCC:

“Roeddem wrth ein bodd yn croesawu’r grŵp o ffermwyr arloesol i’r ardal a rhannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd am y diwydiant cig coch yng Nghymru. Rhoddodd yr ymweliad gyfle inni siarad â'r grŵp am yr RMDP a’u cyflwyno i’r teulu Lloyd-Williams sy'n arwain trwy esiampl yn y sector defaid mynydd.”

Mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, dros gyfnod o bum mlynedd, yn cael ei hariannu fel rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.