A group of Epynt Hardy Rams on a Hill Ram Scheme farm

Mae ffermwyr yn cael eu cynghori i drefnu bod clefyd llyngyr yr iau yn cael ei drin yn gynnar yr hydref hwn er mwyn ei gyfyngu.

Gall llyngyr yr iau ledaenu i ddefaid a gwartheg, gan achosi problemau iechyd cronig sy’n debygol o wneud da byw yn llai ffrwythlon, amharu ar eu twf a’u gwneud yn fwy tebygol o gael afiechydon eraill.

Mae Stoc+, sef prosiect cynllunio iechyd anifeiliaid Hybu Cig Cymru (HCC), yn cynghori ffermwyr i gymryd camau i atal a rheoli clefyd llyngyr yr iau fel nad yw’n achosi colledion ariannol mawr ar ffermydd gwartheg a defaid.

Dr Rebekah Stuart, HCC Flock and Herd Health Executive

Dywedodd Dr Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC:  “Mae atal a rheoli yr un mor bwysig â thriniaethau cemegol i gyfyngu ar ledaeniad llyngyr yr iau. Mae sawl ffordd o reoli llyngyr yr iau ar y fferm. 

“Un ffordd fyddai ystyried sut mae’r pori’n cael ei reoli; dylid osgoi pori ar dir glas sy’n dueddol iawn o fod yn risg uchel." 

“Er mwyn rheoli cynefin y malwod, gwesteiwr canolradd llyngyr yr iau, ystyriwch ffensio o amgylch mannau gwlyb neu, os yw’n briodol, draeniwch y tir er mwyn rheoli cam cyntaf y cylch bywyd."

“Yn olaf, ystyriwch gadw llygad am unrhyw heintiad yn y ddiadell neu’r fuches drwy gyfrwng cyfrifiadau wyau ysgarthol, profion coproantigen, neu seroleg gwaed. Mae modd cael hyd i wybodaeth benodol am y lefel risg ledled Cymru a'r DU ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Clefydau Anifeiliaid Cenedlaethol (NADIS).”

Ar hyn o bryd mae rhagolwg yr haf ar gyfer llyngyr yr iau ar wefan NADIS yn nodi risg gymedrol i ffermydd ledled Cymru, ond wrth inni agosáu at fisoedd yr hydref, gallai'r risg gynyddu.

Mae Stoc+ yn brosiect dros gyfnod o bum mlynedd sy’n rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth bellach am lyngyr yr iau, gan gynnwys sut i atal, rheoli a thrin y clefyd, ar gael yn llyfryn HCC,  Rheoli Llyngyr yr Iau ar ffermydd yng Nghymru, yn ogystal ag yn y llyfryn Iechyd Defaid ac Iechyd y Fuches. Mae’r ddau lyfryn ar gael drwy wefan HCC: https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/animal-health-and-welfare/animal-health-guides/liver-fluke