1.	Emlyn Roberts, Stoc+ and Hill Ram Scheme farmer on his farm in Rhyd-y-main, Dolgellau

Mae milfeddygon yn annog ffermwyr defaid i wneud asesiadau cyflwr corff fel bod eu diadelloedd mor gynhyrchiol â phosibl a bod llai o broblemau posibl o ran iechyd a lles.

Trwy'r prosiect cynllunio iechyd anifeiliaid Stoc+, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn annog ffermwyr i gynnal asesiadau sgôr cyflwr corff (BCS). Mae BCS yn ffordd syml, effeithiol a rhad i bob perchennog diadell allu gwerthuso cyflwr cyrff defaid llawn-dwf. Gwneir BCS trwy wiriad llaw syml o'r anifail i asesu gorchudd braster a màs cyhyrau yr anifail.

Mae asesiadau BCS yn caniatáu i ffermwyr addasu maeth y ddiadell, i gynyddu cynhyrchiant i'r eithaf a lleihau problemau iechyd a lles sy'n gysylltiedig â chorff main neu or-fras. Gall buddion eraill gynnwys mwy o wŷn yn cael eu geni a’u magu a llai o afiechydon metabolig.

Mae Emlyn Roberts o fferm Esgairgawr yn Rhyd-y-main, Dolgellau o’r farn fod BCS yn werthfawr iawn i’w fferm. Ar ei fferm fynydd, mae gan Mr Roberts ddiadell o dros 800 o famogiaid Mynydd Cymreig Meirionydd a buches o wartheg Duon Cymreig, ac mae'n rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd a Stoc+, sef dwy elfen o  gynllun strategol HCC, sef y Rhaglen Datblygu Cig Coch.

Dywed Mr Roberts: “Mae BCS o bwys mawr yma yn Esgairgawr, oherwydd mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr fod y mamogiaid yn y cyflwr iawn cyn eu troi at yr hwrdd a chyn ŵyna. Mae BCS yn hanfodol er mwyn i’r mamogiaid allu ffynnu a pherfformio ar y mynydd. Ynghyd â chofnodi perfformiad, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod y mamogiaid yn y cyflwr gorau posibl i gael y cynnyrch gorau posibl.” 

Esboniodd Claire Jones o Filfeddygon Dolgellau, sydd yn un o Lysgenhadon Milfeddygol Stoc+ ac sy’n perthyn i’r filfeddygfa a ddefnyddir gan Mr Roberts:

“Mae BCS adeg diddyfnu neu hyd at wyth wythnos fan bellaf cyn troi mamogiaid at yr hwrdd yn hollbwysig. Trwy wneud asesiad sgôr bryd hynny, mae modd addasu sut mae mamogiaid unigol yn cael eu rheoli os yw'r sgôr yn rhy isel neu'n rhy uchel.  Mae'n cymryd oddeutu wyth wythnos i gael cynnydd sgôr o un mewn sefyllfa nodweddiadol, ac felly mae'n fanteisiol os yw’r ddiadell yn cael ei monitro’n rheolaidd."

“Mae asesiad BCS yn arbennig o ddefnyddiol ar ffermydd mynydd, lle mae’r tywydd yn gyfnewidiol a’r borfa ddim cystal, a’r amodau’n gosod llawer mwy o straen nag ar dir isel. Wedi dweud hynny, mae’n fanteisiol ar gyfer pob diadell.”

Mae Stoc+ a’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn rhan o dair haenen y Rhaglen Datblygu Cig Coch, a cheir cefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.