Owen Pritchard

Mae ffermwyr mynydd yng Nghymru wedi gweld buddion mawr ar ôl blwyddyn o fod yn rhan o brosiect ymchwil mawr sydd â’r nod o roi hwb i berfformiad diadelloedd defaid pedigri.

Yn 2019, fe wnaeth 24 o ddiadelloedd ychwanegol ymuno â Chynllun Hyrddod Mynydd, Hybu Cig Cymru (HCC). Ar ôl bod yn cofnodi perfformiad eu diadelloedd ers dros flwyddyn mae’r ffermwyr ar y cynllun yn dechrau dehongli eu hadroddiadau gyda chefnogaeth staff y prosiect.

Dyluniwyd y Cynllun Hyrddod Mynydd i ddod â’r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd yr ucheldir yng Nghymru gyda’r nod o gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru drwy wella magu yn y tymor hir a defnydd craff o ddata. Mae buddsoddi mewn technoleg magu â buddion i’r amgylchedd hefyd, gan leihau allyriadau o amaethyddiaeth.

Er ei bod yn gynnar yn y broses, mae'r wybodaeth a ddarperir o ganlyniad i gofnodi perfformiad eisoes wedi darparu data i'r ffermwyr ei ddefnyddio wrth benderfynu ar strategaethau bridio yn y ddiadell.

Mae diadelloedd y Cynllun wedi'u gwasgaru'n ddaearyddol, gan gwmpasu Mynyddoedd Preselau, Epynt, Parc Cenedlaethol Eryri a bryniau Powys a thu hwnt.

Un ddiadell sy’n defnyddio’r cofnodion perfformiad ochr yn ochr â dulliau bugeila traddodiadol yw Owen Pritchard sy’n ffermio yng Ngwynedd. Mae gan Owen ddiadell o famogiaid Mynydd Cymreig Gogledd Cymru a buches o 30 o wartheg magu.

Esbonia Owen, “Ar ôl defnyddio hyrddod Cymreig sydd â chofnodion perfformiad ers peth amser, fe wnaethom benderfynu gymryd mantais o’r Cynllun Hyrddod Mynydd a’r dechnoleg Uned Samplu Meinwe (TSU) sydd ar gael i gymryd y cam tuag at ddiadell â chofnodion perfformiad."

“Mae gennym ffocws allweddol ar dwf a chyfraddau cyhyrau i wella' carcasau ŵyn, ond hefyd rydym yn cadw llygad ar faint aeddfed mamogiaid."

“Mae ein system yn ffocysu ar famogiaid 45kg sy’n gallu ffynnu ar y mynydd y neu amgylchedd naturiol. Wrth ddewis ein stoc newydd, mae'n rhaid iddynt fod yn strwythurol gadarn ac yn iach; mae’r wybodaeth ychwanegu sydd gennym yn awry n golygu y gallwn waredu unrhyw famogiaid sy'n is na mynegai cyfartalog y ddiadell.”

Sean Jeffreys

Mae Sean Jeffreys, Swyddog Rhaglen HCC yn gweithio’n agos gydag Owen a ffermwyr eraill y Cynllun Hyrddod Mynydd. Dywedodd, “Mae gweithio gyda gwahanol fridiau ar wahanol systemau yn hanfodol er mwyn cael adlewyrchiad teg o'r diwydiant yng Nghymru. Mae diadelloedd mynydd yng Nghymru yn chwarae rhan ganolog yn natur haenedig ein system. Bydd gwelliant genetig yn y maes hanfodol hwn yn gweld buddion yn cael eu hidlo i lawr ledled y sector."

“Mae HCC yn gyffrous i allu cefnogi’r ffermydd hyn wrth iddynt fynd i’r afael â’r dasg o gofnodi perfformiad. Mae’r dechnoleg TSU yn galluogi’r systemau awyr agored helaeth hynny i allu monitro ac adolygu perfformiad eu diadelloedd.”

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd  yn un o dri phrosiect pum-mlynedd  yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.