Mae dwy fferm dda byw yng Nghymru yn cymryd camau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn gwneud eu systemau’n fwy effeithlon o ran carbon.

Mae Fferm Bryn, ger Aberteifi, a Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont, yn safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio.

Trwy eu gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, maen nhw’n gweithio gyda’r arbenigwr bîff a defaid annibynnol Dr Liz Genever i gyflwyno camau gweithredu i leihau allyriadau ymhellach.

Mae’r ddwy fferm eisoes yn dal a storio mwy o garbon o lawer na’r hyn y maen nhw’n ei ryddhau bob blwyddyn - mae cydbwysedd allyrru carbon ar fferm Bryn yn -82.87 tunnell CO2e ac yn -197.01 tonnes CO2e ar fferm Hendre Ifan Goch, gan fod gan y ddwy fferm lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd.

Yn ystod gweminar diweddar a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio, dywedodd Dr Genever bod lle i wella’r ffigyrau hynny ymhellach trwy sicrhau enillion ymylol mewn sawl maes, ond ychwanegodd: “Bydd hyn yn her gan eu bod yn gwneud gwaith mor dda o ran perfformiad anifeiliaid.’’

Y da byw eu hunain sy’n cynhyrchu’r lefel uchaf o allyriadau. “Dyma’r agwedd fwyaf sylweddol o ran lleihau allyriadau. Gellir gwneud enillion mewn meysydd megis sicrhau bod anifeiliaid llai cynhyrchiol yn gadael y fferm,’’ ychwanegodd Dr Genever .

Ar fferm Bryn, daw 43% o’r allyriadau o’r gwartheg, felly’r prif ffocws i’r ffermwyr, Huw a Meinir Jones yw gwella effeithlonrwydd yn eu buches o 80 o wartheg sugno.

Y nod yw i bob buwch ddiddyfnu lloi sydd o leiaf 45% o’u pwysau; ar fferm Bryn, mae gwartheg yn pwyso oddeutu 575kg, felly, os bydd 94 o’r lloi o’r 100 o wartheg sy’n cael eu troi at y tarw’n cael eu magu ac os maent yn pwyso oddeutu 260kg wrth ddiddyfnu, mae hynny’n rhoi effeithlonrwydd o dros 45% ar gyfer y fuwch.

Mae porfeydd aml-rywogaeth hefyd yn cael eu tyfu er mwyn gwella cyfraddau twf y gwartheg sy’n tyfu. Bydd y teulu Jones hefyd yn monitro’r defnydd o danwydd a nitrogen.

Mae trin y tir cyn lleied â phosibl ers dros ddeng mlynedd a system bori cylchdro wedi cynhyrchu lefelau uchel o ddeunydd organig yn y pridd i wrthbwyso allyriadau.

Ar fferm Hendre Ifan Goch, mae’r ddiadell o 600 o famogiaid yn gyfrifol am 49% o’r allyriadau, felly unwaith eto, bydd effeithlonrwydd mamogiaid yn brif ffocws, ynghyd â chyfraddau twf. Y nod ar gyfer y ddiadell yw magu o leiaf 65% o bwysau’r famog hyd at ddiddyfnu.

“Mae’r mamogiaid yn pwyso 65kg felly os bydd 1.65 o ŵyn fesul mamog sy’n cael ei throi at yr hwrdd yn cael eu magu a bod yr ŵyn yn cyrraedd 26kg wrth gael eu diddyfnu, bydd y targed o 65% o bwysau’r famog yn cael ei gyflawni,” meddai Dr Genever.

Byddant yn ceisio gwneud gwelliannau o ran cyfraddau twf ar ôl diddyfnu gan fod perfformiad yn gallu bod yn her yn ystod yr hydref oherwydd argaeledd glaswellt a diffyg elfennau hybrin.

“Po hiraf y bydd yr ŵyn ar y fferm, mwyaf yn y byd y byddan nhw’n ei fwyta, a byddant yn cynhyrchu mwy o fethan,” meddai Dr Genever.

Er mai carbon yw’r pwnc llosg ym myd amaeth ar hyn o bryd, rhybuddiodd bod disgwyliadau pellach gan brynwyr ar y gweill, megis monitro bioamrywiaeth ac effaith cymdeithasol y busnes fferm.

“Mae’n bosibl canolbwyntio gormod ar garbon, ond mae angen i ni ystyried beth sy’n dod nesaf hefyd.’’

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.