Retail Figures Show Growth in Red Meat Sales

Mae dadansoddiad o ddata gwerthiant manwerth diweddar gan Kantar Worldpanel yn rhoi darlun positif ar y cyfan ar gyfer gwerthiannau cig coch ym Mhrydain.  

Er bod y farchnad dan bwysau o hyd oherwydd Coronafeirws, cafwyd cynnydd yng nghyfanswm y gwariant ar gig eidion a phorc yn y sector mân-werthu, ac mae hynny wedi lliniaru ychydig o’r niwed a achoswyd trwy golli marchnadoedd y gwasanaeth bwyd fel bwytai, gwestai a thafarndai.

Cafwyd cynnydd o 26.9% yn yr holl wariant ar gig eidion yn ystod y cyfnod o ddeuddeg wythnos hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 17 Mai. Prynwyd mwy o gig gan ddefnyddwyr bob tro roedden nhw’n siopa, ac roedden nhw hefyd yn siopa’n amlach. Yn ogystal, roedd 8.7% yn fwy o bobl yn prynu cig.

Cafwyd cynnydd enfawr o 34.5% yn yr holl wariant ar frwgig yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, wrth i bobl chwilio am ffyrdd rhatach a haws o goginio;  roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, mae'r data hefyd yn dangos cynnydd sylweddol mewn gwariant ar doriadau cig eidion eraill yn ystod yr wythnosau diwethaf – a hynny’n dilyn ymgyrchoedd gan fân-werthwyr a’r byrddau ardoll.  

Cafwyd gwerthiant da ar gyfer stêcs cig eidion yn ystod y cyfnod o 12 wythnos; gwerthwyd 24.0% yn fwy nag yn ystod y cyfnod cyfatebol y llynedd. Yn ystod pedair wythnos olaf y cyfnod dan sylw, roedd y cynnydd gymaint â 43.9% mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2019. 

Fe gafwyd ychydig o ostyngiad ym mhris stêcs yn ystod y cyfnod hwn, ac roedd hynny yn sgil cynigion arbennig yn y siopau a’r archfarchnadoedd i gynyddu gwerthiant y toriadau gorau er mwyn gwneud defnydd priodol o bob rhan o’r carcas. Arweiniodd y gostyngiad yn y pris, ynghyd â'r ymgyrch farchnata a thywydd barbeciw, at 16.4% yn fwy o bobl yn prynu'r cynnyrch,  ac roedd pob prynwr yn prynu 6.5% yn fwy o gig nag yn y cyfnod cyfatebol y llynedd. 

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru (HCC): “Bu’r camau pendant a gymerwyd gennym ar ddechrau’r cyfyngiadau ar symud yn fodd i ni ganolbwyntio o’r newydd ar ein gweithgareddau marchnata Cig Eidion Cymru PGI. Roedd pobl yn cael eu hannog i goginio yn eu cartrefi  y math o fwyd y bydden nhw’n arfer ei fwyta mewn tai bwyta ac i fod yn anturus wrth ddefnyddio gwahanol doriadau o gig coch. Daeth hyn i gyd at ei gilydd mewn ymgyrch bwysig ledled y DG a gafodd ei ariannu gan y Gronfa Neilltuol, fu’n ffordd o gyfuno ymdrechion y tri Bwrdd Ardoll yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, sydd wedi helpu i hybu’r galw am gig coch ledled y DG.”

Mae’r ffigurau ar gyfer gwerthiant cig oen yn llai calonogol, ac roedd hyn i’w ddisgwyl o gofio bod gwyliau’r Pasg – pan fydd mwy o gig oen yn cael ei werthu nag mewn unrhyw gyfnod arall o’r flwyddyn – wedi digwydd pan oedd y cyfyngiadau symud yn eu hanterth. Fodd bynnag, fe welwyd ambell duedd galonogol i wneud yn iawn yn rhannol am golli marchnad bwysig, sef y gwasanaeth bwyd.

Drwyddi draw, yn ystod y tri mis, gwerthwyd llai o gig oen a chafwyd cynnydd o 7.0% yn y pris cyfartalog i £9.90/kg.  Fe wnaeth cynnydd yn nifer y defnyddwyr cig oen (1.5%) helpu i leihau’r effaith o bob cwsmer yn prynu llai o gig. Roedd amlder y prynu yn sefydlog. Er bod mwy o ddarnau cig oen i’w rhostio wedi cael eu gwerthu cyn y Pasg, ni werthwyd cymaint â'r flwyddyn flaenorol, a golygodd hynny ostyngiad o 15.1% yng nghyfanswm y gwariant. Mewn cyferbyniad, gwerthwyd 23.4% yn fwy o olwython cig oen, a chafwyd cynnydd o 25.2% yn y gwariant. 

Ychwanegodd Rhys: “Roedd y Pasg a Ramadan yn ystod y cyfyngiadau ar symud a doedd teuluoedd ddim yn gallu dod at ei gilydd i ddathlu â chig oen, fel sy’n arfer digwydd. Yn HCC, gwnaethom gynyddu ein hymgyrch farchnata ymhlith defnyddwyr a darparu ryseitiau newydd i demtio pobl i ddefnyddio gwahanol doriadau o Gig Oen Cymru PGI yn eu cartrefi. Bydd ein hymgyrchoedd yn eu hanterth yn yr haf ac yn ymestyn i'r hydref a'r gaeaf.”

Cafwyd tipyn mwy o wario ar borc yn y siopau a’r archfarchnadoedd.  Roedd y cynnydd o 24.2% yn deillio o’r ffaith fod y pris cyfartalog wedi cynyddu 7.3% a bod 15.8% yn fwy o borc wedi cael ei werthu. Er bod cwsmeriaid yn prynu ychydig yn llai o borc bob tro roedden nhw’n siopa, roedden nhw’n siopa’n amlach. 

Mae Hybu Cig Cymru yn cael ei ariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.