Gwyn Howells

Gall Cymru arwain y byd wrth gynhyrchu cig oen ac eidion mewn ffyrdd sy'n mynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd byd-eang, yn ôl Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru (HCC) Gwyn Howells.

Wrth annerch Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd ar Fawrth 4, amlinellodd Mr Howells y manteision naturiol yr oedd Cymru yn eu mwynhau ar gyfer ffermio da byw cynaliadwy – yr amodau gorau yn y byd ar gyfer tyfu glaswellt, digon o law, a’r sgiliau hwsmonaeth i gynhyrchu cig o ansawdd o dir ymylol tra hefyd yn atafaelu carbon drwy’r pridd a’r gwrychoedd.

Gyda gweithredu ar newid hinsawdd a sicrhau adferiad economaidd cynaliadwy o COVID-19 yn uchel ar yr agenda wleidyddol, amlinellodd hefyd ganfyddiadau ymchwil newydd i ffermio a chynaliadwyedd yng Nghymru sydd i’w canfod yng ngweledigaeth Y Ffordd Gymreig gan HCC, gan gynnwys sut y gallai Cymru ddarparu bwyd cynaliadwy ar gyfer rhannau o'r byd lle roedd dŵr yn brin, a sut roedd ffermydd Cymru yn gweithio i leihau allyriadau ymhellach.

“Mae gennym ni stori wych i’w hadrodd o ran cynaliadwyedd,” meddai Mr Howells. “Gan weithio gydag ymchwilwyr annibynnol o ystod o brifysgolion, rydyn ni wedi dangos bod cynhyrchu cig eidion a chig oen yng Nghymru yn llawer mwy cynaliadwy na ffermio da byw mewn sawl rhan arall o’r blaned.

“Mae mwy y gallwn ei wneud, ac rydym yn benderfynol o leihau ein hallyriadau a gwneud y mwyaf on potensial i atafaelu carbon yn ein pridd,” ychwanegodd, “ond o ystyried y rhinweddau sydd gennym, gallwn gyfrannu’n gadarnhaol at ddiogelwch bwyd fyd-eang o gynhyrchu bwyd o safon yn y lle mwyaf priodol heb ychwanegu at newid yn yr hinsawdd.

“Yng Nghymru mae gennym yr amodau perffaith ar gyfer tyfiant glaswellt, a thirwedd sydd i raddau helaeth yn anaddas ar gyfer cynhyrchu bwydydd eraill. Mae'n llawer mwy niweidiol i’w gynhyrchu mewn ardaloedd sych fel y Dwyrain Canol a rhannau o America, felly mae gennym gyfle a chyfrifoldeb i gynnal ac adeiladu sector defaid a gwartheg cryf i gynhyrchu bwyd cynaliadwy i bobl ym Mhrydain a thu hwnt.”