Jamie Robertson

Bu arbenigwr blaenllaw mewn iechyd gwartheg a’u cadw dan do, Jamie Robertson, yn gweithio gyda phrosiect iechyd anifeiliaid yng Nghymru er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor.

Mae Stoc+, prosiect iechyd praidd a buches sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter bum-mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru. Mae’r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr a’u milfeddygon i hyrwyddo rheolaeth ragweithiol o preiddiau a buchesi.

Mewn gweminar fis Tachwedd y llynedd, ymunodd yr arbenigwr mewn iechyd gwartheg a’u cadw dan do, Jamie Robertson, â thîm Stoc+ a’r milfeddyg Olly Hodgkinson i rannu gwybodaeth am gadw gwartheg dan do a sut gallai hyn gael effaith ar eu hiechyd yn gyffredinol. Gall unrhywun a gollodd y gweinar ei wylio eto drwy’r ddolen hon: https://meatpromotion.wales/en/news-industry-info/hcc-tv  

Yn dilyn y gweminar, bu Mr Robertson yn gweithio gyda Stoc+ i gynhyrchu taflen wybodaeth a fydd yn rhoi rhagor o gyngor a gwybodaeth i ffermwyr. 

Mae’r daflen yn amlinellu pum prif ffactor i’w hystyried er mwyn rhoi’r amodau gorau posibl i wartheg dan do, sef hylendid, lleithder, awyr iach, cyflymder aer a thymheredd. 

Dywedodd Mr Robertson: “Mae cadw gwartheg dan do yn ystod misoedd y gaeaf yn helpu i ddiogelu’r pridd a’r borfa ac o gymorth hefyd i wella perfformiad. Fodd bynnag, gall amodau gwael wrth roi’r gwartheg dan do arwain at nifer o broblemau iechyd fel niwmonia ac amryw o glefydau heintus."

“Gall gwneud ychydig o newidiadau syml helpu i wella perfformiad y gwartheg wrth eu rhoi dan do. Pwrpas y daflen a gynhyrchwyd ar y cyd â Stoc+ yw amlinellu rhai pethau allweddol y gall ffermwyr eu harchwilio: mae modd newid rhai pethau’n gyflym iawn er budd i’r gwartheg yn ystod y ddau neu dri mis canlynol pan fyddan nhw dan do.”

Dywedodd Heather McCalman, Cydlynydd Rhaglen HCC: “Mae canol gaeaf yn amser da i archwilio tai gwartheg, yn enwedig tai gwartheg sy’n tyfu.  Os daw unrhyw ddiffyg i’r golwg, gallai newidiadau wella cyflwr, iechyd a pherfformiad y gwartheg, ynghyd â gwneud y fferm yn fwy proffidiol."

“Mae llawer o’r ffermwyr cig eidion sy’n rhan o brosiect Stoc+ wedi dweud fod tai gwartheg yn un o’r pethau maen nhw eisiau eu harchwilio fel rhan o’r prosiect er mwyn gwella iechyd y gwartheg a lleihau’r risg o niwmonia a chlefydau heintus eraill yn y fuches.”

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.