Gall ŵyn benyw a defaid blwydd fwyta dros dri y cant o’u pwysau byw bob dydd wrth bori betys porthiant ond rhaid i’r cnwd gael gorchudd da o ddail a chael ei ddyrannu’n gywir er mwyn iddynt allu bwyta cymaint â hyn a sicrhau cyfraddau tyfu da. 

Ar gnwd arferol yn y Deyrnas Unedig o 20tDM/hectar (ha), gellir pori betys porthiant ar gyfraddau stocio uchel – 100 o famogiaid sy’n cario mwy nag un oen/ha neu 125 o ŵyn benyw neu ddefaid blwydd/ha.

Mae’r ddeilen yn gyfoethog mewn protein a’r bwlb yn llawn egni. Ond, mewn systemau defaid, nid oes gennych y dewis o ddibynnu ar laswellt neu silwair atodol i gydbwyso cnwd â gorchudd dail gwael, sy’n gallu cael ei achosi gan glefyd dail yn yr hydref, cynghorodd yr arbenigwr betys porthiant Dr Jim Gibbs.

“Mae’n anodd iawn cyflenwi’r protein mewn porthiant atodol heb i’r cynnwys ffibr fynd yn y ffordd a’u hatal rhag bwyta’r lefelau dymunol,” rhybuddiodd y ffermwyr a oedd yn gwrando ar weminar a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio ar y cyd â Field Options, KWS a Momont.

Er mwyn gallu bwydo betys porthiant i ŵyn benyw a hesbinod yn llwyddiannus rhaid ei reoli’n effeithiol yn agronomegol, pwysleisiodd Dr Gibbs.

“O’i reoli felly, gallech yn hawdd weld eu bod yn bwyta dros dri y cant o’u pwysau byw,” meddai.

Os rhowch ormod o le yn y cnwd i ddefaid, byddant yn bwyta mwy o’r ddeilen sy’n gyfoethog mewn protein na’r bwlb sy’n llawn egni, a gall hynny arwain at iddynt fwyta llai na’r lefelau dymunol a chael problemau iechyd posibl fel cetosis a chlwy’r eira.

Mae’n bwysig hefyd fod ganddynt ddigon o le.

“Gallech yn hawdd gael eich temtio i wasgu’r defaid i le llai er mwyn iddynt fwyta’r bylbiau’n lân ond, mewn sefyllfa o’r fath, gallwch fod mewn sefyllfa lle nad ydynt yn cael digon a gan na fydd ganddynt brotein solid i’w fwyta gyda’r bwlb, bydd eu lefelau bwyta yn cwympo’n sydyn iawn,” meddai Dr Gibbs.

Porwch y cnwd mewn stribedi a dyrannu 1m o hyd ffens i bob 3-4 dafad – yn y Deyrnas Unedig fel rheol dyrennir ychydig dros 1m² o’r cnwd i bob dafad.

Gellir ei bori fesul nifer o ddyddiau, ond anaml y caiff hyn ei wthio dros ddau neu dri diwrnod. “Mae cyfnodau dau ddiwrnod yn ddelfrydol,” meddai Dr Gibbs.

Ar gyfer defaid iau, mae gofyn ichi bron bob amser roi porthiant atodol bob yn eilddydd – yn ddelfrydol dylech gyd-bori betys porthiant a phorfa neu, os nad yw hyn yn bosibl, drwy gynnig silwair o ansawdd da.

Ar gyfer y dosbarth hwn o ddefaid, darparwch 100g o ddeunydd sych (DM) – gwneir hyn yn aml bob yn eilddydd.

Gall cynnwys 100g DM o borthiant atodol i famogiaid naill ai’n ddyddiol neu bob yn eilddydd arwain at iddynt fwyta ychydig yn fwy o fetys.

Mae’n bwysig iawn dewis mathau o fetys porthiant blasus mewn systemau defaid.  Os nad ydynt yn flasus, ychydig iawn o’r bwlb y byddant yn ei fwyta a bydd hynny’n cynyddu cyfanswm y protein craidd yn eu diet.

Yn wahanol i wartheg, nid yw defaid angen cyfnod trawsnewid.

“Maent yn rheoli eu lefelau bwyta yn wahanol, felly’r broses yw rhedeg y defaid ar y cnwd ac i ffwrdd drachefn am ychydig oriau, am ychydig ddyddiau, yna eu gadael arno,” meddai Dr Gibbs.

Rhaid i ddefaid o bob dosbarth gael eu brechu’n llawn yn erbyn clefydau clostridiol cyn eu troi i’r cnwd. 

“Gallech gael llawer iawn o golledion os na chaiff y defaid eu brechu’n iawn,” rhybuddiodd Dr Gibbs.

Mae rhoi dos i reoli parasitiaid hefyd yn fanteisiol.

Bydd y cwestiwn o roi atchwanegiadau elfennau hybrin ai peidio, copr a seleniwm yn benodol, yn dibynnu ar y lefelau sydd i’w cael yn naturiol mewn ardaloedd unigol – gofynnwch i’ch milfeddyg am gyngor ynglŷn â hyn, meddai Dr Gibbs.

Anaml iawn y mae defaid yn dioddef o asidosis ar fetys porthiant. “Mewn gyrfa ym maes betys porthiant, dim ond llond llaw o achosion rwyf fi wedi’u gweld,” meddai Dr Gibbs.

Nid yw betys porthiant yn addas ar gyfer pori ŵyn mewn systemau pesgi oherwydd, yn wahanol i wartheg, mae eu lefelau protein crai yn rhy isel i sicrhau’r cynnydd gofynnol mewn pwysau byw.

Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio fel lle i’w cadw dros dro, awgrymodd Dr Gibbs.

“Mae’n bosibl cael cyfraddau pesgi o 100g/dydd o bwysau byw ar gyfraddau stocio uchel iawn a thynnu’r ŵyn oddi ar y betys porthiant mewn grwpiau i’w gorffen ar ddiet addas sy’n uchel mewn protein crai,” meddai.

Fodd bynnag, un dewis arall effeithiol ar gyfer pesgi ŵyn yw codi’r betys, eu gwasgaru dros y borfa a phori’r glaswellt a’r betys mewn stribedi.

“Mae’r betys wedyn i gyfrif am oddeutu 50% o’r diet,” meddai Dr Gibbs. “Gallwch wedyn ddyblu’r gyfradd stocio oherwydd fe fyddant yn bwyta llawer iawn yn fwy o egni.”

Os gwnaethoch fethu’r digwyddiad hwn, bydd y recordiad ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio am amser byr.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.