Bydd rheoli mamogiaid beichiog yn effeithiol yn lleihau nifer yr ŵyn a fydd yn marw rhwng genedigaeth a diddyfnu.

Gall colledion ŵyn ar ôl ŵyna fod mor uchel â 15% mewn diadelloedd yng Nghymru, ond mae modd eu hosgoi yn ôl Helen Scott, Canolfan Filfeddygol Caerfyrddin.

Mewn ymgais i geisio lleihau’r lefel uchel o golledion, bydd practisau milfeddygol ledled Cymru yn darparu cyfres o weithdai ar gyfer ffermwyr, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra NADIS.

Yn ystod un o’r digwyddiadau hyn a gynhaliwyd gan Ganolfan Filfeddygol Caerfyrddin, rhybuddiwyd ffermwyr fod y rhan fwyaf o golledion yn digwydd o fewn y 48 awr gyntaf ar ôl genedigaeth, gyda’r ffactorau risg yn amrywio o bwysau genedigaeth isel a genedigaethau anodd i ddiffyg glanweithdra a nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni i bob mamog.

Mae rhai o’r achosion hyn yn digwydd o ganlyniad i benderfyniadau a chamau a gymerir yn ystod yr wythnosau sy’n arwain at enedigaeth yr oen.

Pwysleisiodd Ms Scott yr angen i ffermwyr ddadansoddi eu porthiant, a phan fo’r canlyniadau ar gael, i sicrhau bod dognau’n cael eu cydbwyso’n unol â’r dadansoddiad.

Gall profi porthiant arwain at arbedion o ran costau dwysfwyd yn ogystal. “Os bydd lefel egni eich silwair yn isel iawn ond bod lefel y protein yn iawn, byddai’n rhatach i ychwanegu betys porthiant neu fetys siwgr at y diet gan nad oes angen unrhyw brotein ychwanegol,” meddai Ms Scott.

Awgrymodd y gallai dadansoddi ansawdd porthiant ganiatáu ar gyfer cyflwyno llai o ychwanegion yn hwyrach, gan leihau’r risg o gynhyrchu ŵyn rhy fawr.

Mae sganio mamogiaid er mwyn gweld faint o ŵyn maen nhw’n eu cario hefyd yn bwysig gan ei fod yn galluogi ffermwyr i ddyrannu porthiant yn ôl yr angen.

“Gall sganio alluogi ffermwyr i grwpio a rhannu mamogiaid i hwyluso’r modd y maent yn rheoli’r bwydo,’’ meddai Ms Scott.

Os bydd maeth y famog yn cael sylw digonol, bydd ŵyn yn cael eu geni gyda lefel dda o fraster brown gan olygu bod ganddynt fwy o egni wrth gefn yn ystod y dyddiau cynnar tyngedfennol hynny.

Bydd iechyd a maeth y famog hefyd yn pennu ansawdd a chyfaint y colostrwm. “Colostrwm yw’r brif ffynhonnell egni, mae’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a phrotein ac mae’n cau’r bwlch rhwng yr adeg y mae braster brown yn dechrau lleihau a diddyfnu,” meddai Ms Scott. 

“Pan fo’r ŵyn wedi defnyddio eu braster brown i gyd, nid ydynt yn gallu crynu, gan olygu na allant godi tymheredd y corff.’’

Er mai mamogiaid sy’n cario tripledi sy’n cynhyrchu’r cyfaint fwyaf o golostrwm, mae cymeriant fesul oen yn is oherwydd nifer yr ŵyn sy’n cystadlu amdano, felly bydd angen sylw arbennig ar yr anifeiliaid hyn. 

Rhoddodd Ms Scott gyngor y dylid bwydo colostrwm drwy diwb ystumog i bob un o’r tri oen, a rhoi un o’r tripledi i famog gydag un oen. “Nid ydych chi eisiau bod mewn sefyllfa lle mae oen bychan iawn yn cystadlu gydag oen mawr.’’

Gwiriwch fod ŵyn wedi bod yn sugno o fewn dwy awr o’u geni - dylai tethi’r famog fod yn wlyb gyda phoer os bydd yr oen wedi bod yn sugno.

Os oes angen ychwanegu colostrwm, colostrwm mamog ddylai gael blaenoriaeth - tynnwch laeth o’r famog ei hun. Ond os nad yw hynny’n bosibl, defnyddiwch golostrwm buwch laeth o fuches sy’n rhydd o glefyd Johne. Colostrwm powdwr yw’r opsiwn olaf, ac os byddwch yn defnyddio hwn, anelwch at ddefnyddio’r cynnyrch gyda’r lefel uchaf o imiwnoglobwlin (Ig).

Dylai oen dderbyn 50ml o golostrwm yn ystod dwy awr gyntaf ei fywyd, a 200ml o fewn y 24 awr gyntaf. “Rydw i o’r farn nad oes mod di chi roi gormod o golostrwm i ŵyn,” meddai Ms Scott.

Os byddwch chi’n cynhesu colostrwm i’w fwydo i oen, peidiwch â’i gynhesu mewn microdon gan fod hynny’n dinistrio’r protein mae’n ei gynnwys. Bydd lefelau hylendid uchel wrth ŵyna ac wedi hynny’n lleihau faint o driniaeth wrthfiotig sydd angen ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn. 

Awgrymiadau da ar gyfer atal colledion ŵyna o enedigaeth hyd at ddiddyfnu:

  • Dewiswch fridiau ar gyfer rhwyddineb ŵyna
  • Peidiwch â chaniatáu mamog i fynd yn ordew - bwydwch yn unol â’r sgôr cyflwr corff, ansawdd y porthiant a nifer yr ŵyn mae’n eu cario
  • Rheoli maeth tua diwedd beichiogrwydd
  • Ceisiwch leihau ar unrhyw aflonyddu posibl gan bobl a chŵn
  • Yn ddelfrydol, dylech wisgo menig latex wrth ŵyna ac wrth drochi’r bogail gydag ïodin.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.