ffiws

Mae’r ffiws ar fin cael ei danio ym Mhorthmadog, gyda Ffiws, Gofod Gwneud sy’n lansio ar y 10fed o Hydref 2019. 

Gofod Gwneud ydi gofod cydweithredol ar gyfer gwneud, dysgu, archwilio a rhannu sy'n defnyddio offer uwch-dechnoleg ac offer di-dechnoleg. Bydd nifer o beiriannau diddorol ar gael ym Mhorthmadog fel argraffwyr 3D, torwr laser a pheiriant CNC. 

Mi fydd Ffiws wedi ei leoli yn 125 Stryd Fawr Porthmadog ac mi fydd ar gael am ddim I bawb. Pwrpas y cynllun, sy’n cael ei arianu gan Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac ARFOR, Cyngor Gwynedd yw agor gofod gwaith dros dro mewn adeiladau segur yng nghymunedau Gwynedd i roi'r cyfle i fusnesau lleol, a’r gymuned yn ehangach, ddefnyddio offer a thechnoleg newydd. 

Mae AGW yn chwilio am atebion arloesol i heriau sy’n wynebu economi Gwynedd. Maent yn gwneud hyn trwy dreialu dulliau newydd, gyda rhai ohonynt yn llwyddo ac yna’n cael eu hailadrodd, ac eraill yn methu â chyrraedd amcanion cychwynnol, ond defnyddir y mewnwelediadau gwerthfawr ohonynt i lywio prosiectau yn y dyfodol. Mae Cynllun ARFOR yn edrych i ddatblygu’r economi, creu swyddi gwerth uchel a hybu’r Iaith mewn ardaloedd yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, drwy arbrofi gyda syniadau newydd ag arloesol. Arianwyd Cynllun ARFOR gan Llywodraeth Cymru.

Esboniodd Rhys Gwilym, Uwch Swyddog AGW:

“Mi all Ffiws fod o ddefnydd i rywyn! Os oes gennych broblem ‘da chi’n methu ffeindio datrysiad iddo, beth am greu y datrysiad eich hun! Mae Gofodau Gwneud yn caniatau I chi greu yr union beth rydych angen. Ella bod ‘na blymar angen ‘washer’ maint arbennig sydd ddim bosib ei brynu, mi all greu un ei hyn mewn Gofod Gwneud i’r maint union mae angen.” 

Ymunwch â ni ar y 10fed o Hydref am 6.30pm yn Y Ganolfan Porthmadog i lansio Ffiws, ac i ddysgu mwy am y Gofod Gwneud a sut gall fod o ddefnydd i chi. Bydd y digwyddiad yn cael ei redeg gan Jo Hinchliffe, cyfrannwr i'r cylchgrawn Hackspace a 'maker' lleol, a mi fydd yn rhoi trosolwg o'r offer fydd ar gael yn y gofod a beth sy'n bosib ei wneud wrth eu defnyddio.

Hefyd, mi fyddwn yn clywed gan Jen Fenner sydd wedi adeiladu busnes dylunio a phrototeipio llwyddiannus mewn Gofod Gwneud yn Lerpwl sydd bellach yn gweithredu o Sensor City. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rhys ar 01766 514 057 neu rhys@mentermon.com I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch I Eventbrite.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.