The Wood Lab Project - Cwm A Mynydd

Ym mis Gorffennaf eleni, mae Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd wedi cyhoeddi dros £100,000 o gyllid newydd i alluogi a chynorthwyo cymunedau, mentrau ac unigolion i gyflawni prosiectau a mentrau i gefnogi economi wledig Caerffili a Blaenau Gwent.  

Mae'r grŵp yn edrych i ariannu nifer o brosiectau neu fentrau mewn meysydd cymwys.  Bydd prosiectau llwyddiannus yn derbyn grant o hyd at 80% o gyfanswm costau eu prosiect. 

Mae pumed rownd y Gronfa Weithredu LEADER yn edrych i gefnogi prosiectau a fydd yn helpu cymunedau lleol i wella o Covid-19 ond maent hefyd yn chwilio am geisiadau am fentrau ehangach i greu cymunedau gwledig sy’n wyrddach, yn decach ac yn fwy ffyniannus. 

Cwm a Mynydd heritage

Ers 2014, mae Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd wedi cymeradwyo dros  £800,000 o gyllid i brosiectau cymwys.  Wedi'i ariannu trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, mae Cronfa Weithredu LEADER Cwm a Mynydd wedi cefnogi prosiectau sydd wedi helpu datgelu treftadaeth a hanes lleol ac wedi datblygu hyfforddiant a rhaglenni sgiliau ar gyfer cymunedau a busnesau.  

Mae hefyd wedi archwilio a threialu defnyddio technoleg ddigidol wrth ffermio i wneud amaethyddiaeth yn fwy gwydn wrth wynebu marchnadoedd a hinsawdd.  

Cwm a Mynydd Community

Mae'r grŵp wedi darparu lle i greu dulliau arloesol o fynd i'r afael â chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer bwyd, diod a chrefft, gan godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc, ac maent wedi annog defnyddio'r Gymraeg o fewn busnes.

Gellir dod o hyd i'r ffurflen gais a'r canllawiau yma: https://your.caerphilly.gov.uk/cwmamynydd/cy/sut-i-wneud-cais-ein-prosiectau/pecyn-cefnogaeth-leader.  

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd yn datblygu prosiectau mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid a rhaid i bob darpar ymgeisydd gysylltu â thîm prosiectau’r Cynllun Datblygu Gwledig i drafod eich syniadau cyn gwneud cais. Ffoniwch 01443 838632 neu e-bostio rhaglendatblygugwledig@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Bydd angen i ddarpar brosiectau a cheisiadau cael eu cyflwyno drwy e-bost at rhaglendatblygugwledig@caerffili.gov.uk erbyn diwedd y dydd, 3 Awst. Bydd prosiectau cymeradwy yn cael eu diweddaru ar gynnydd eu cais fel y mae'n cael ei ystyried.  Bydd angen cwblhau pob prosiect llwyddiannus erbyn 30 Medi 2021. 

Cwm a Mynydd yw’r enw ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig Caerffili a Blaenau Gwent, a ariennir trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.