Mae grŵp ffocws agored i werthuso ac archwilio’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer sector defaid godro newydd, gynaliadwy yng Nghymru yn cael ei gynnal ddydd Llun, 19eg o Hydref am 7:30yh trwy ‘Zoom’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Menter a Busnes i edrych ar ddichonoldeb sefydlu diwydiant defaid godro yng Nghymru, sy'n cael ei arwain gan y farchnad, yn wydn ac sy’n canolbwyntio ar gynnyrch gwerth uchel allai agor y drws i gyfleon newydd ar ôl Brexit.

Gweledigaeth y prosiect yw sefydlu diwydiant defaid godro cynaliadwy yng Nghymru, yn seiliedig ar gydweithrediad, ac sy’n cael ei gefnogi gan gorff ar ran y sector allai weithio mewn partneriaeth â'r gadwyn gyflenwi.

I gymryd rhan yn y grŵp ffocws a chael mewnwelediad pellach i waith y prosiect, cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bostio Geraint Hughes geraint@madryn.co.uk erbyn 12:00 hanner dydd ar 14/10/2020. Anfonir dolen i ymuno â’r sesiwn ‘Zoom’ cyn y cyfarfod.

Mae cynhyrchiant llaeth dafad wedi dyblu yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf, ac mae’n parhau i gynyddu. Cynhyrchwyd 852 miliwn tunnell o laeth yn fyd-eang yn 2019 gyda llaeth dafad yn cyfrif am 11 miliwn tunnell. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn sector gymharol ifanc sydd heb gael ei ddatblygu, gyda’r rhagolygon diweddaraf yn disgwyl cynnydd o 26% yn y swm o laeth dafad a gynhyrchir yn flynyddol erbyn 2030.

Mae James Holloway, ffermwr o ganolbarth Cymru, sy'n arwain y prosiect yn credu bod Cymru mewn sefyllfa dda o ran defnydd tir a sgiliau i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd y gall defaid godro eu cynnig.

“Gallai datblygu’r sector godro defaid gynnig cyfle i’r genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i ffermio o fewn sector broffidiol,” meddai James. “Yn yr un modd, gall defaid godro gynnig systemau ffermio cynaliadwy sy'n cael effaith amgylcheddol isel, tra’n parhau i fod yn hygyrch i newydd-ddyfodiaid."

“Mae gennym ddiddordeb clywed gan ffermwyr o bob rhan o Gymru, a hynny os oes ganddyn nhw gynlluniau eisoes i ddechrau godro defaid, yn ei ystyried fel opsiwn neu gyda diddordeb yn y modd y mae'r sector yn datblygu. ”

Dydd Llun 19eg Hydref 2020
Grŵp Ffocws ar ‘Zoom’ 7:30pm - 9:00pm