Beth Kenure and Stacey Horne from Llandaff North Women’s rugby team at the Cardiff Lamb Tasting Events

Cafodd llawer o bobl sy’n ymarfer yn rheolaidd i gadw’n heini  eu synnu pa mor faethlon yw cig oen pan gynhaliwyd sesiynau blasu mewn sawl lle o gwmpas y wlad.

Gwahoddwyd grwpiau o wirfoddolwyr i gymryd rhan ym Mhrosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy’n rhan o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch. Mae hon yn fenter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei harwain gan Hybu Cig Cymru (HCC) er mwyn gwella’r sector cig coch yng Nghymru.

Yn dilyn y prawf blasu, cafodd y bwytawyr wybodaeth gan wyddonwyr blaenllaw a oedd yn disgrifio’r buddion maethol sy’n deillio o fwyta cynhyrchion cig coch, yn enwedig Cig Oen Cymru. 

Dywedwyd wrthynt fod Cig Oen Cymru yn darparu protein, sy'n hanfodol i ddatblygu a chynnal cyhyrau, yn enwedig ar gyfer cystadleuwyr chwaraeon, athletwyr a phobl sy'n cadw'n heini ac yn iach. Mae Cig Oen Cymru yn cynnwys mwynau hollbwysig, gan gynnwys Haearn Hema, sydd 2.6 gwaith yn haws ei amsugno wrth fwyta cig oen na'r Haearn Di-hema, sydd mewn llysiau fel sbigoglys. 

Roedd y selogion chwaraeon a fynychodd y paneli blasu yn synnu o ddarganfod bod cig oen hefyd yn cynnwys cyfran uchel o faetholion pwysig fel Sinc, Potasiwm, Magnesiwm a Fitaminau A, B a D. Yn ogystal, pan fydd cig oen cael ei docio, mae’n cynnwys llai nag wyth y cant o fraster.

Yn y digwyddiad blasu yng Nghaerdydd, dywedodd dawnsiwr lleol, Joseph Evans: “Roedd y cig oen heno yn hollol anhygoel.  Fel dawnsiwr mae'n bwysig bod eich iechyd a'ch maeth yn iawn. Rwy'n hoffi cael cigoedd penodol yn fy niet, ond ar ôl y blasu heno, rwy'n deall eu buddion lawer yn well ac yn sylweddoli pa mor dda yw Cig Oen Cymru i chi. Byddaf yn bendant yn bwyta mwy o gig oen o hyn ymlaen.”

Yn ystod y sesiynau blasu dwys bu bron i bum cant o bobl yn cymryd rhan mewn prawf blasu rheoledig  mewn tri lleoliad ledled y wlad. “Roedd pob gwirfoddolwr hefyd yn mynychu cyflwyniad ôl-flasu a oedd yn cynnwys gwybodaeth am fitaminau, mwynau a nodweddion llesol eraill Cig Oen Cymru ac yn cynnig cyngor am ddim ar sut y gellir defnyddio Oen Cymru i goginio prydau maethlon cyflym. Yn ogystal, derbyniodd y blaswyr becyn o ryseitiau ar gyfer syniadau.” meddai Dr. Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd HCC. sy’n arwain tîm y rhaglen flasu.

Ar ôl clywed am fuddion maethol cig oen, dywedodd dwy o chwaraewyr rygbi Merched Gogledd Llandaf, Beth Kenure a Stacey Horne, y bydden nhw’n bwyta mwy o gig oen - a dywedodd eu cyd-chwaraewr Sioned Young y byddai'n defnyddio'r wybodaeth yn y ryseitiau a gafodd ar y noson ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn archebu Yng Nghymru yn uniongyrchol o'i chigydd lleol.

 

Sioned Young

 

“Roeddwn mor falch o dderbyn y ryseitiau Cig Oen Cymru. Byddaf yn eu plastro bobman yn fy nghegin! A byddaf yn mynd at y cigydd i ofyn am y toriadau penodol,” meddai.

Bydd y rhwydwaith blasu yn helpu HCC i sefydlu’r broses o asesiad sylfaenol trylwyr o arferion cyfredol y gadwyn gyflenwi, er mwyn nodi amrywiadau ac arferion posibl er mwyn gwella ansawdd bwyta Cig Oen Cymru.  

Cefnogir Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd bron i 2,000 o ddefnyddwyr i gyd yn cymryd rhan yn rhaglen Ansawdd Bwyta Cig Oen Cymru.  Mae’n rhan o'r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sy’n werth £9.2 miliwn ac a fydd yn para am bum mlynedd i helpu ffermwyr Cymru i baratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit.