Agri Academy

Bu tri grŵp o unigolion uchelgeisiol a fu’n cymryd rhan yn Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn rhannu eu profiadau mewn cyflwyniad ar y cyd i Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Roedd yn amlwg fod aelodau Rhaglenni Busnes ac Arloesedd, Arweinyddiaeth Wledig a Rhaglen yr Ifanc yn rhannu nifer o nodau a dyheadau, nid yn unig ar gyfer eu dyfodol eu hunain, ond hefyd ar gyfer Cymru wledig.

Cafodd gobeithion aelodau’r Grŵp Arweinyddiaeth Wledig am ddyfodol y diwydiant ffermio yng Nghymru, iaith a diwylliant Cymru, ynghyd ag agweddau eraill o fywyd gwledig, eu cyfleu mewn neges fideo fywiog a rannwyd gyda gwleidyddion ac arweinwyr y diwydiant yn ystod y cyflwyniad.

Yn ôl Ffion Medi Rees o Landeilo, a fu’n arwain y cyflwyniad ar y cyd gyda’r ffermwr llaeth, Manon Williams o Sir Gâr, fod sicrhau cyfleoedd ar gyfer newydd ddyfodiaid, sicrwydd bwyd, gwella ansawdd dŵr a diogelu’r iaith Gymraeg ar frig y rhestr o flaenoriaethau.

Yr hyn sy’n bwysig, meddai, yw bod angen i’r fframwaith amaethyddol cyffredinol ar gyfer y dyfodol alluogi ffermwyr i sicrhau bywoliaeth gynaliadwy ar y tir.

Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Wledig hanner ffordd drwy’r cwrs, ac mae’r aelodau wedi cael eu disgrifio fel y grŵp mwyaf amrywiol ers dechrau’r Academi Amaeth poblogaidd chwe blynedd yn ôl. Hyd yn hyn, mae aelodau wedi cael cyfarfodydd ym Mrwsel gyda chynrychiolwyr o nifer o wledydd ac wedi rhwydweithio gyda phobl mewn swyddi dylanwadol.

I aelodau’r Rhaglen Busnes ac Arloesedd, roedd taith astudio i Wlad yr Iâ dros gyfnod o bedwar diwrnod yn rhan o’r arlwy.

Cawsant hefyd eu herio i lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer fferm deuluol.

Archwiliwyd y cynlluniau hyn, yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol ac argymhellion ar gyfer cyflawni cynaliadwyedd a phroffidioldeb, gan banel o feirniaid, gan gynnwys yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, Cadeirydd bwrdd cynghori strategol Cyswllt Ffermio.

Cyhoeddwyd yr enillydd gan Yr Athro Jones yn ystod y Ffair Aeaf, sef Kayleigh Rees-Jones, ffermwr bîff a defaid o Aberhonddu.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol aelod o’i theulu ennill y tlws - enillodd ei gŵr, Huw, y gystadleuaeth y llynedd.

Derbyniodd aelodau Rhaglen yr Ifanc eu tystysgrifau, a gyflwynwyd gan Yr Athro Jones.

Am wybodaeth ynglŷn ag Academi Amaeth 2019 Cyswllt Ffermio, cysylltwch â Menter a Busnes ar 01970 636565 neu anfonwch e-bost at farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Gwybodaeth gefndirol:

 
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.