conversation about Succession Planning

Mewn byd delfrydol, byddai’r genhedlaeth hŷn yn trafod eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y busnes fferm yn agored gydag aelodau eraill o’r teulu, ymhell cyn i drafodaeth o’r fath fod yn angenrheidiol. Yn anffodus, nid dyma’r drefn bob amser, a gall hyn gael effaith ddifrifol ar y teulu a’r fferm.

Gall cynllunio olyniaeth ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr fod yn dasg annymunol ac anodd, ond mae’n fater na ddylid ei roi o’r neilltu os ydych yn dymuno diogelu dyfodol y busnes ac osgoi gwrthdaro o fewn y teulu.  

Er mwyn cynorthwyo teuluoedd ffermio a choedwigaeth i ddiogelu a chynllunio ar gyfer dyfodol eu fferm, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o weithdai Cynllunio Olyniaeth i gynorthwyo teuluoedd ffermio i ystyried gofynion y teulu yn ogystal â’r fferm. 

Bydd y pynciau canlynol yn cael eu trafod, megis pam fod angen i ffermwyr a choedwigwyr gynllunio olyniaeth, cynnig cefnogaeth ac arweiniad annibynnol, trosglwyddo’r asedau, trosglwyddo cyfrifoldeb a chefnogi’r genhedlaeth nesaf. 

Dywed Sian Bushell, arbenigwr olyniaeth a fydd yn siaradwr gwadd yng ngweithdai Cyswllt Ffermio: 

“Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi’r cam cychwynnol i chi a’ch teulu adnabod rhai o’r prif faterion y bydd angen i chi eu trafod a’u hystyried cyn cynllunio’r hyn a ddylai ddigwydd i’r busnes os a phan fydd eich amgylchiadau’n newid. Wrth i amser fynd heibio, mae amgylchiadau pawb yn newid.”

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Datblygu Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru:

“Yn ddelfrydol, dylai cynllunio olyniaeth ymwneud nid yn unig â chynlluniau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd wedi i rywun ymddeol neu farw, ond dylai hefyd roi ystyriaeth i sut fydd y busnes yn cael ei reoli i ddiogelu’r dyfodol a bywoliaeth y rhai hynny sy’n cymryd yr awenau.

“Mae angen i ffermwyr feddwl nid yn unig am bwy fydd yn etifeddu’r fferm a’r tŷ fferm, ond hefyd sut fydd y fenter ffermio’n parhau a phwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw.  Gall cynllunio ymlaen hefyd leihau atebolrwydd treth a phroblemau ariannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Gall trafodaeth agored ynglŷn â’r modd y bydd yr ystâd yn cael ei drin helpu i atal anghydweld ymysg y teulu ffermio ac anghydfod busnes. Gallai peidio â chael ewyllys mewn lle olygu bod angen i’r rhai sydd ar ôl ymdrin â rheolau diffyg ewyllys ac ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol yn ogystal ag ymdopi â’u galar.”

Cynhelir y digwyddiad cyntaf yng Nghlwb Rygbi Aberteifi ar 18 Mehefin, rhwng 19:30 a 21:30. 

Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:

Date  Time  Location
18/06/19 19:30 – 21:30     Clwb Rygbi Aberteifi, Ffordd Gwbert, Ceredigion SA43 1PH
19/06/19 14:00 -16:00 White Hart Inn,
36 Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin
SA19 6RS
19/06/2019 19:30 – 21:30 Pafiliwn Rhyngwladol, Llanelwedd, Powys LD2 3SY
25/06/19 14:00 -16:00 Royal Oak, Cross, Y Trallwng, Powys SY21 7DG
25/06/2019

 

19:30 – 21:30    

Holt Lodge, Ffordd Wrecsam, Wrecsam LL13 9SW
26/06/19 14:00 – 16:00 Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ

Mae archebu lle ymlaen llaw yn angenrheidiol a bydd pob lle’n cael ei neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad a chadw lle, cysylltwch â Delyth Evans dros e-bost delyth.evans@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch y rhif canlynol: 01970 600 176

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.