Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst.

Ers dechrau’r pandemig cynghorwyd tua 130,000 o bobl yng Nghymru i gymryd camau gwarchod gan eu bod mewn perygl mawr o ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn contractio coronafeirws.

Mae'r newid yn y cyngor yn golygu, o 16 Awst, y gall pobl yn y grŵp cysgodi fynd i'r gwaith neu i'r ysgol a mynd i siopa ond dylen nhw barhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain rhag coronafeirws drwy gadw pellter o 2m oddi wrth eraill a golchi eu dwylo'n aml.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud yn y gorffennol y gall y rheini sy'n cysgodi wneud ymarfer corff diderfyn yn yr awyr agored a chwrdd ag aelodau o un aelwyd arall yn yr awyr agored. Gall pobl sy'n cysgodi hefyd ffurfio rhan o aelwyd estynedig.

Dywedodd Dr Frank Atherton:

Mae'r broses o gysgodi wedi bod yn anodd i lawer o bobl – mae degau o filoedd o bobl wedi aberthu'n bersonol yn sylweddol iawn i ddilyn y canllawiau ac i ddiogelu eu hiechyd yn ystod anterth y pandemig. Yr wyf am ddiolch iddynt am hynny oherwydd nid yw wedi bod yn hawdd. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi'r rhai sydd wedi bod yn cysgodi.

Mae cysgodi yn gais enfawr i rywun ymgymryd ag ef, felly mae'n bwysig nad ydym yn gofyn i bobl i wneud hynny am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Gan fod lefel y firws yn ein cymunedau yn isel erbyn hyn, y gall gwarchod ddod i ben am y tro o 16 Awst. Mae hyn yn golygu y gall y rhai sydd wedi bod yn cysgodi ailafael yn raddol yn eu bywyd bob dydd, ond gan gymryd gofal ychwanegol o gwmpas ymbellhau corfforol a golchi dwylo. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac os gwelwn lefelau trosglwyddo'n cynyddu, efallai y bydd angen i ni ystyried cynghori'r grŵp cysgodi i gymryd rhagofalon a mesurau ychwanegol i amddiffyn eu hunain yn y dyfodol.”

Dros yr haf bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r holl blant ar y rhestr warchod. Er bod gwarchod yn dod i ben, bydd y rhestr yn cael ei chynnal. Byddwn yn defnyddio'r canllawiau diweddaraf gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i benderfynu a oes angen i bob plentyn aros ar y rhestr.

Dywedodd Dr David Tuthill, Swyddog Cymru ar ran y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant:

Rydym bellach yn gwybod mwy am coronafeirws nag a wnaethom ychydig fisoedd yn ôl ac rydym wedi gallu diweddaru ein harweiniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddatblygwyd dros y misoedd hynny. Mae salwch difrifol o'r firws mewn plant yn brin iawn ac mae cysgodi yn dod â'i broblemau ei hun i blant. Mae cloi i lawr wedi bod yn anodd i bob plentyn sydd wedi colli allan ar yr ysgol, chwarae a gweld ffrindiau – ond yn enwedig i'r rhai sydd wedi bod yn cysgodi. Os byddwn yn wynebu rhagor o achosion o glefydau, gallwn fod yn hyderus na fydd angen i'r mwyafrif helaeth o blant, gan gynnwys y rhai sydd dan ofal meddyg teulu, i gysgodi. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn newyddion da i lawer o deuluoedd. 

Daw cyflenwadau wythnosol bocsys bwyd sy’n cael eu cydgysylltu gan yr Awdurdodau Lleol i ben ar ôl 16 Awst ond bydd slotiau blaenoriaeth yn achos siopa ar-lein ar gyfer archfarchnadoedd yn parhau. Hyd at 14 Gorffennaf, mae dros 152,000 o flychau bwyd wedi'u danfon at bobl sy’n gwarchod ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth dosbarthu presgripsiynau hefyd yn parhau tan ddiwedd mis Medi.

Diogelu Cymru