Trainees get to grips with lime mortar


Efallai eich bod wedi gweld rhai o’r sesiynau hyfforddiant rydym wedi eu cynnig fel: rhan o’n rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol.

Yn ddiweddar, cynhaliom gwrs Cyflwyniad i Forter Calch yng Nghlwb Criced Bradle.

Rhoddwyd golwg agosach i’r gweithwyr dan hyfforddiant ar y defnydd o forter calch gan Terence Lee.

Cawsant y cyfle i brofi eu sgiliau ar un o waliau’r clwb criced ar ail noson y cwrs.

Roedd y Cyng David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai yn bresennol yn un o’r sesiynau hyfforddiant. Meddai:

“Roeddwn yn falch iawn i gael y cyfle i ddod draw a gweld yr hyfforddiant yn cael ei gynnal.

“Mae mor bwysig ein bod yn gallu cynyddu’r gronfa sgiliau ar gyfer y mathau hyn o grefftau arbenigol yn Wrecsam.

“Po fwyaf sy’n gallu gwneud hynny, y mwyaf o grefftwyr a chontractwyr y bydd gennym ni’n lleol, a fydd yn gallu gwneud y math o waith sydd ei angen i gynnal a chadw ein stoc ardderchog o adeiladau treftadaeth a thraddodiadol.

“Hyd yn oed os nad ydynt yn rhestredig, mae adeiladau o’r fath yn ased i’n hardal a gallent chwarae rhan fawr yn ei bywyd economaidd.”

Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio:

“Roeddwn yn falch iawn i weld y diddordeb yn y cwrs hwn, a’r nifer a gymerodd ran.

“Mae sicrhau fod hyfforddiant o’r fath ar gael yn rhan allweddol o’n rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol – sydd, yn ei dro, yn cysylltu â’r gwaith gyda phwyslais ar dreftadaeth i adfywio canol y dref.

“Byddwn yn parhau i gynnal y cyrsiau hyn a chyrsiau tebyg wrth symud ymlaen a, gan hynny, byddwn yn cynghori unrhyw un sydd â diddordeb i gadw golwg ar ein blog newydd ac yn y cyfryngau i gael diweddariadau pellach.”

Mae’r cyrsiau uchod am ddim diolch i gyllid gan gydweithrediad Seilwaith Canolbarth Cymru a Rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam; sydd wedi’u hariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a gaiff eu hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.