Mae gwneud newidiadau bychain i’r offer casglu a dethol wyau mewn uned wyau maes yng Nghymru wedi arwain at fod llai o wyau yn cael eu graddio fel rhai eilradd.

Mae mân graciau mewn wyau’n aml yn amhosibl eu gweld â’r llygad ar y fferm ond mae’r synwyryddion yn y safle pecynnu yn dod o hyd iddynt.

Mae Osian Williams yn rhedeg uned wyau maes gyda 32,000 o ieir Bovan Brown yn Wern, y Trallwng, sy’n un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio.

Gall mân graciau ddigwydd wrth i wyau gael eu casglu a’u dethol – os caiff ond 1% o’r wyau eu graddio yn rhai eilradd, gall olygu colled o £5,500 i’r busnes.

Dywed Catherine Price, Swyddog Technegol Dofednod yn Cyswllt Ffermio, fod wyau wedi cracio, ynghyd ag wyau sy’n cael eu baeddu gan wyau wedi cracio ar felt cludo, yn gallu achosi i ganran uchel o wyau gael eu graddio’n rhai eilradd. 

“Pan gaiff wyau eu difrodi fel hyn, maent yn colli llawer iawn ar eu gwerth,” meddai. 

“Mae hyn, ynghyd â’r farchnad wyau heriol sydd ohoni, yn golygu ei bod o fudd i gynhyrchwyr wyau atal difrod diangen i wyau wrth eu cludo o’r blwch dodwy drwodd i’r peiriant pecynnu.”

Nid yw’n broblem fawr yn Wern, ond gan fod yr adar yn awr yn 70 wythnos oed ac fe allai ansawdd plisg yr wyau fod yn fwy bregus, mae Mr Williams wedi cychwyn ar brosiect i ganfod mannau gwan yn ei system.

Fel rhan o’r prosiect, a gynhaliwyd ar y cyd â Cyswllt Ffermio a’i gyflenwr porthiant, Lloyds Animal Feeds, cafodd synhwyrydd ar siâp wy ei redeg ar hyn y mannau cludo a’r offer graddio, i ganfod y mannau a oedd yn achosi trafferthion.

Canfu rediad serth ar dop y belt wyau ger y man trosglwyddo, man gwan a allai arwain at gracio’r wyau. Ychydig o waith addasu â sbaner oedd ei angen i ddatrys y broblem.

Cafodd cyflymder y belt cludo wyau – sy’n aml yn gallu achosi i wyau gracio – hefyd ei addasu.

“Mae pawb yn meddwl bod eu system yn iawn, ond roedd yn syndod dysgu sut gall cwymp bychan effeithio ar ansawdd wyau,” meddai Mr Williams wrth ei gynulleidfa yn y digwyddiad Yn Fyw o’r Fferm Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn Wern.

Gyda’r elw dros gostau porthiant a chywennod yn dynn iawn yn y maes cynhyrchu wyau maes, gall rhedeg synhwyrydd drwy’r system fod yn rhad iawn ac yn ffordd hawdd o wneud gwelliannau.

Dywedodd Gwesyn Davies, o Lloyds Animal Feeds, a oedd yn un o’r siaradwyr yn y digwyddiad Yn Fyw o’r Fferm, fod wyau eilradd yn dod yn fwy o broblem yn awr bod ieir yn cael eu defnyddio am fwy o amser.

“Rydyn ni’n gweld digon o ieir yn cael eu defnyddio am hyd at 80 wythnos ac mae’r plisg yn mynd yn fwy bregus erbyn hynny,” meddai.

“Mae maeth a bridio yn faterion i’w hystyried ond mater hawdd iawn ydy edrych sut gallwn wella pethau yn y sied.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.