Advert for the webinar

Bydd milfeddyg o ogledd Cymru yn rhannu cyngor ac ymarferion gorau â ffermwyr ar y cyfnod lloia ac iechyd y gwartheg, mewn gweminar am ddim sy’n cael ei drefnu gan Hybu Cig Cymru (HCC) ym mis Mawrth. 

Ar 8 Mawrth am 7:30yh, mi fydd Dyfrig Williams, milfeddyg ym Milfeddygfa y Wern yn ymuno â thîm Stoc+ i drafod iechyd gwartheg yn ystod y cyfnod lloia.

Mae Stoc+, prosiect iechyd praidd a buches sy’n cael ei arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter bum-mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru. Mae’r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr a’u milfeddygon i hyrwyddo rheolaeth praidd a buches yn rhagweithiol.

Mae nifer o ffermydd gwartheg eidion Stoc+ yn paratoi at y cyfnod lloia ar hyn o bryd, ac mi fydd Dyfrig Williams yn rhannu cyngor ar iechyd er mwyn lleihau cymhlethdodau yn ystod y tymor lloia.

Dyfrig Williams a vet at Wern Veterinary Surgeons

Esboniodd Dyfrig Williams, “Mae angen cadw llygad ar sgôr cyflwr corff y gwartheg trwy gydol y flwyddyn, ond mae’n hanfodol bod y cyflwr corff yn gywir ar gyfer lloia gan fod gwartheg gyda sgôr cyflwr corff rhy uchel neu rhy isel yn gallu cael mwy o drafferth wrth loia a all arwain at gymhlethdodau ac o bosib, lloi swrth."

“Unwaith y mae’r fuwch wedi lloia, dylai ffermwyr sicrhau fod y llo yn derbyn y swm a argymhellir o golostrwm o fewn yr oriau cyntaf ar ôl geni. Drwy sicrhau bod y fuwch wedi derbyn ei brechiadau i gyd, bydd yn sicrhau bod y llo yn derbyn y maetholion hanfodol o’r colostrwm, ac yn derbyn imiwnedd hanfodol yn erbyn afiechydon drwy’r gwrthgyrff."

“Os ydych yn amau nad yw’r gwartheg yn perfformio fel y dylent, ystyriwch gysylltu â’ch milfeddyg i drafod y posibilrwydd o ymchwilio ymhellach.”

Rhaid cofrestru ar gyfer y gweminar, a gallwch wneud hynny trwy fynd i wefan HCC. Bydd y gweminar yn ddwyieithog a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cattle