HCC20065 - Webinars set to keep industry informed - 1

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), corff ardoll cig coch Cymru, yn cynnal cyfres o weminarau ar bynciau sy’n amrywio o ffrwythlondeb defaid a llyngyr yr iau, i ansawdd cig a’r Mynegai Mynydd Cymru newydd, a’r cyfan mewn ymgais i rannu gwybodaeth a chyngor.

Er mwyn dal i gyfathrebu â ffermwyr pan mae’n rhaid cadw pellter cymdeithasol oherwydd COVID-19, mae HCC yn cynnal cyfres o weminarau i rannu cyngor ac ymchwil.

Bydd y gweminarau yn ymwneud ag amrediad eang o bynciau, gan gynnwys ffrwythlondeb defaid, llyngyr yr iau, rheoli porfa ar dir uchel, trafodaeth ar Fynegai Mynydd Cymru a’r canlyniadau o’r paneli blasu Cig Oen Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mae’r holl bynciau’n seiliedig ar waith a wnaed drwy raglen ymchwil a datblygu HCC, yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Cig Coch.

Yn y gyntaf yn y gyfres bu Dr Rhys Aled Jones o Brifysgol Aberystwyth yn rhannu gwybodaeth a chyngor ar sut i reoli llyngyr main trwy ddulliau cynaliadwy. Eglurodd Dr Jones sut i wneud yn siŵr fod y driniaeth yn effeithiol ar gyfer llyngyr main a sut i ddibynnu llai ar gyffuriau i‘w lladd.

Cynhelir y weminar nesaf nos nos Lun 3 Awst pan fydd Llysgennad Milfeddygol Stoc+, Tom Searle a’r arbenigwraig ar iechyd defaid, Kate Hovers, yn cymryd rhan. Prif bwnc y drafodaeth fydd ffrwythlondeb defaid, ac yn ystod y gweminar bydd Tom yn dangos sut i archwilio  ffrwythlondeb hwrdd ac yn esbonio sut i gael y gorau o'r hyrddod.

Bydd modd gweld y gweminarau ar dudalen Facebook HCC, gan ddechrau am 19:30, a byddan nhw ar gael wedyn ar wefan HCC. Yn dilyn pob gweminar, cynhelir sesiwn holi ac ateb pan fydd cyfle i ffermwyr ac unigolion eraill sydd â diddordeb ofyn cwestiynau yn seiliedig ar y pwnc a drafodwyd y noson honno trwy adael sylw neu anfon neges.

John Richards, Rheolwr Datblygu a Chydberthynas yn HCC

Dywedodd John Richards, Rheolwr Datblygu a Chydberthynas yn HCC; “Mae’r gweminarau hyn yn gyfle i HCC barhau i ymgysylltu â ffermwyr ac eraill er gwaethaf y cyfyngiadau cyfredol. 

“Mae’n golygu y gallwn rannu cyngor ar weithgareddau cyfredol ar y fferm -  fel ffrwythlondeb defaid a llyngyr yr iau - a rhannu peth o'r gwaith a wnaed trwy ein portffolio ymchwil a datblygu a'r Rhaglen Datblygu Cig Coch." 

“Ym mhob gweminar, bydd yna westai gwahanol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil, arbenigwyr o fewn y diwydiant, ynghyd â milfeddygon a ffermwyr sy’n ymwneud â’n prosiectau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gweminarau, ewch i wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy

Cefnogir y Rhaglen Datblygu Cig Coch  gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.