Beef Sales in Britain Boost Welsh Farmers

Mae gwerthiant cig eidion ym Mhrydain yn dal i ffynnu, yn ôl y data diweddaraf yr arbenigwyr ymchwil cwsmeriaid, Kantar Worldpanel.

Yn ôl yn y gwanwyn, roedd pryder mawr am ddyfodol y sector cig eidion. Caewyd  bwytai a gwestai oherwydd cyfyngiadau COVID, a bu pobl yn prynu cynhyrchion gwerth isel fel briwgig yn ystod y prynu gwyllt, a arweiniodd at anghydbwysedd difrifol yn y galw a phrisiau fferm ansefydlog iawn.

Ers hynny, mae ymgyrchoedd marchnata gan Hybu Cig Cymru (HCC), manwerthwyr a chyrff eraill, i ddwyn perswâd ar siopwyr i roi cynnig ar goginio prydau’r bwyty yn eu cartrefi, wedi sefydlogi’r farchnad, gyda gwerthiannau manwerthu yn dringo i lefelau ymhell uwchlaw'r llynedd.

Mae ffigyrau diweddaraf Kantar Worldpanel yn ymdrin â diwedd yr haf a’r hydref. Maent yn dangos, yn y 12 wythnos hyd at 1 Tachwedd, fod gwariant defnyddwyr ar gig eidion ym Mhrydain wedi cyrraedd o £551miliwn, 12.6% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019.

Ar y cyfan, yn ystod deg mis cyntaf 2020, gwerthodd manwerthwyr Prydain 14.6% yn fwy o gig eidion na’r llynedd o ran cyfaint, gyda gwerthiannau o doriadau premiwm, fel stêcs, i fyny hyd yn oed yn fwy (18.5%).

Yn 2019, roedd 53.1% o’r cig eidion a brynwyd gan gwsmeriaid Prydain yn friwgig, gan gynyddu i tua 58% yn ystod y cyfnod o banig ym mis Mawrth. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y ffigwr hwn wedi cwympo i 51.9%, sy’n newyddion cadarnhaol i’r sector cig eidion.

Dywedodd Dadansoddwr Data HCC, Glesni Phillips, “Mae’n galanogol iawn gweld cig eidion yn perfformio’n dda iawn yn y sector manwerthu ym Mhrydain, wrth i gyfyngiadau COVID barhau i gael effaith ar y sector gwasanaeth bwyd a lletygarwch. Mae hyn yn sbardun pwysig i’r prisiau cryf y mae ffermwyr yn eu derbyn ar hyn o bryd."

“Mae’n bwysig nodi’r ystadegau ar gyfer briwgig. Mae gwerthu dros hanner cyfanswm cyfaint y cig eidion fel briwgig am brisiau cymharol isel wedi effeithio ar broffidioldeb y sector yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr her nawr fydd cadw’r cwsmeriaid newydd sydd wedi bod yn fwy anturus gyda’u coginio gartref dros y misoedd diwethaf."

“Mae HCC yn dwysáu ei ymgyrch i hyrwyddo Cig Eidion Cymru PGI yn y cyfnod cyn y Nadolig, gan flaenoriaethu marchnad manwerthu Prydain wrth i’r rhagolygon ar gyfer allforion i Ewrop a’r fasnach gwasanaeth bwyd yn gyffredinol barhau i fod yn ansicr.”

Ar hyn o bryd, mae’r pris ar gyfer gwartheg dethol yn y marchnadoedd da byw dipyn yn uwch na’r cyfartaledd 5-mlynedd.