A group of Epynt Hardy Rams on a Hill Ram Scheme farm

Mae disgwyl y bydd newidiadau mawr yn y ffordd mae ffermwyr yn gwerthuso rhinweddau genetig defaid mynydd yn gwneud dewis hyrddod mynydd yn haws ac yn fwy proffidiol.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd, sy'n un rhan o Raglen Datblygu Cig Coch Hybu Cig Cymru (HCC), yn dod â'r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd tir uchel yng Nghymru, gyda'r nod o gryfhau sector defaid Cymru trwy gyfrwng gwelliant genetig hirdymor. 

Mewn cydweithrediad â’r Cynllun Hyrddod Mynydd, mae’r Genetegydd Defaid, Dr Janet Roden, wedi datblygu Mynegai Bridio Defaid Mynydd Cymreig er mwyn ei gwneud yn haws i adnabod anifeiliaid sy'n ffynnu ar dir uchel fel bod modd gwneud defaid mynydd yn fwy effeithlon a phroffidiol. Mae’r Mynegai Bridio Defaid Mynydd Cymreig newydd ei gyhoeddi ar-lein, ac mi fydd yn cael ei lansio a’i drafod ymhellach yn rhan o gyfres gweminarau HCC ar ddydd Mawrth 1 Medi.

Dr Janet Roden

Dywed Dr Roden: “Mae’r mynegai yn ystyried yr angen i wella cyfraddau twf, pwysau carcas a chydffurfiad yr oen, ynghyd â  gwella nodweddion mamol y famog a'i gallu i fagu ŵyn yn llwyddiannus ar y mynydd. Mae ymchwil bellach ar y gweill i edrych ar nodweddion sy'n gysylltiedig â goroesiad yr oen a hirhoedledd y famog.

Fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd, mae Gwasanaethau Bridio Signet ar fin ail-lansio eu gwasanaethau cofnodi perfformiad ar gyfer cynhyrchwyr defaid mynydd.

Dywed Samuel Boon, sydd wedi bod yn arwain y gwaith ar ran AHDB Signet: 

Samuel Boon

“Un newid allweddol yw defnyddio dull newydd o asesu trwch braster a chyhyrau gan ddefnyddio sganio uwchsain. Bellach bydd y nodweddion carcas pwysig hyn yn cael eu gwerthuso ar sail pwysau byw wedi'i addasu er mwyn rhoi mwy o sylw masnachol iddyn nhw - yn ogystal â galluogi bridwyr hyrddod i wella carcasau eu defaid mynydd heb gynyddu eu maint llawn-dwf." 

"Bydd y dadansoddiad newydd yn cael ei gyflwyno’n fisol, a olygir bydd gan fridwyr a phrynwyr yr wybodaeth ddiweddaraf drwy’r amser – yn aml wrth ddefnyddio eu gliniaduron a ffonau clyfar i gael hyd i’r wybodaeth ar wefan newydd Signet.”

Heather McCalman HCC Programme Coordinator

Meddai Heather McCalman, Cydlynydd Rhaglen HCC: “Mae cynlluniau cofnodi perfformiad yn bwysig o ran helpu ffermwyr masnachol i ddewis hyrddod sydd â geneteg uwchraddol. Ond mae hyrddod â chofnodion perfformiad yn hanfodol mewn rhaglenni bridio defaid mynydd, hefyd, lle mae llawer o’r nodweddion sy’n economaidd bwysig yn dod i’r amlwg ym merched hwrdd ac yn amhosibl eu hasesu â’r llygad wrth brynu’r hwrdd ei hun.

“Mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig  (EBVau) yn helpu i leihau'r risg o brynu hyrddod sy'n perfformio'n wael ac yn helpu cynhyrchwyr i gael hyrddod â geneteg sy’n ateb gofynion eu diadell.”

Mae’r Mynegai Bridio newydd ar gyfer Defaid Mynydd Cymru ar gael ar wefan HCC a bydd yn destun trafod yn y weminar nesaf a gynhelir ddydd Mawrth 1 Medi ar Facebook HCC am 19:30. Bydd Janet Roden a Samuel Boon yn ymuno â Heather wrth i'r Mynegrif gael ei lansio. Yn dilyn y cyflwyniad, bydd sesiwn holi ac ateb byw.
 
Mae’r Cynlun Hyrddod Mynydd yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.