Cynhyrchion ar gyfer diogelu gweithwyr rhag COVID-19.
Wrth i chi ddechrau meddwl am baratoi eich gweithleoedd ar gyfer pan fydd cydweithwyr a chwsmeriaid yn dychwelyd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae gennym nifer o fframweithiau ar gael i'ch helpu i ddiogelu eich staff.
Mae gennym gyflenwyr dibynadwy a chydymffurfiol, y mae llawer ohonynt wedi'u lleoli yng Nghymru, ar y fframweithiau canlynol:
- NPS-CS-0066-16: Cyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE) gwelededd uchel, gwisgoedd, dillad gwaith a dillad hamddenol
- NPS-CFM-0099-19: Deunyddiau glanhau a phororol a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi
- NPS-CFM-0085-18: Cyflenwi deunyddiau adeiladu
- NPS-CS-0053-16: Deunydd ysgrifennu a phapur copïo
Cynnyrch ar gael
Gall y cyflenwyr ar ein fframweithiau gynnig amrywiaeth o gynhyrchion i helpu sefydliadau i aros yn fwy diogel, gan gynnwys:
1. Cyfarpar Diogelu Personol (mae canllawiau’r fframwaith a dewisiadau prynu - angen mewngofnodi):
- Masgiau a gorchuddion wyneb
- Offer amddiffyn y llygaid
- Gynau a ffedogau
- Menig
- Hylif diheintio dwylo
- Gorsafoedd diheintio
2. Cyflenwadau swyddfa (mae canllawiau’r fframwaith a dewisiadau prynu - angen mewngofnodi):
- Arwyddion
- Pecynnau dychwelyd i'r gwaith
- Hylif diheintio dwylo
3. Deunyddiau glanhau (mae canllawiau’r fframwaith a dewisiadau prynu - angen mewngofnodi):
- Hylif diheintio dwylo
- Clytiau gwrthfacterol
- Diheintydd
- Canyddion (bleach)
- Masgiau a gorchuddion wyneb
- Hylif diheintio dwylo
- Ffedogau
- Menig
- Offer amddiffyn y llygaid
- Gorsafoedd diheintio
4. Deunyddiau adeiladu – ar gyfer ymbellhau cymdeithasol (mae canllawiau’r fframwaith a dewisiadau prynu - angen mewngofnodi):
- Pren ar gyfer gwneud arwyddion
- Cynhyrchion concrit
- Tâp ar gyfer marcio'r llawr
Cyngor ar brynu o'n fframweithiau
Os ydych chi am archwilio opsiynau caffael posibl, neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio: NPSCorporateServices@llyw.cymru
Cefnogi Polisi Caffael Cymru a’r ymateb i COVID-19
Caiff ein holl weithgarwch caffael ei wneud yn unol â Datganiad Polisi Caffael Cymru ac mae'n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol yn llawn. Fel rhan o hynny rydym yn gweithio'n agos gyda'n cyflenwyr i sicrhau eu bod yn ymrwymo i'r Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Mae ein cytundebau ar flaen y gad wrth gefnogi ein heconomi sylfaenol a'n hymateb i argyfwng COVID-19, gyda nifer o weithgynhyrchwyr Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar yn cyflenwi cynnyrch drwy ein fframweithiau.
Help a chefnogaeth arall
Ewch i Busnes Cymru am ystod eang o gyngor gan gynnwys camau ymarferol i ddarparu gweithle mwy diogel.