Universtiy of Lampeter

Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnal ffair fwyd ar gampws Llambed fel rhan o weithgareddau Wythnos y Glas ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd. 

Cynhelir y ffair fwyd ar ddydd Mercher, Medi’r 15fed, ar y lawnt o flaen yr Hen Adeilad rhwng 11 a 2. Mae’r digwyddiad nid yn unig yn agored i fyfyrwyr presennol y campws, ond hefyd i aelodau’r gymuned leol yn Llambed.  

Mae yna amrywiaeth o stondinau wedi’u cadarnhau gan gynnwys, ANUNA - sourdough bakers, Cath's Vegan Kitchen, Hufen Ia Conti's, Distyllfa Da Mhile, Felin Ganol Watermill, Hathren Brownies, Cegin Yve,  Gwinllan Llaethliw, Caws Teifi a stondin marchnad Llambed a Siambr Fasnach Llambed. 

Trefnwyd y ffair fwyd yn enw Canolfan Tir Glas fel ffordd o hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yr ardal, a hefyd fel rhan o weledigaeth ehangach y ganolfan i geisio cryfhau’r berthynas rhwng y Brifysgol a’r dref.

Mae Canolfan Tir Glas yn weledigaeth newydd a chyffrous ar gyfer Llambed, lle bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid eraill yn yr ardal, yn cydweithio i ddatblygu ecosystem a fydd yn cefnogi isadeiledd gwledig, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer hyrwyddo economi twristiaeth yn lleol gyda ffocws clir ar fwyd a lletygarwch. Ariennir y cynllun yn rhannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Hazel Thomas, trefnydd y ffair fwyd,

“Roedd y syniad o drefnu ffair fwyd i estyn croeso i’r myfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn gyfle gwych i rannu gweledigaeth Canolfan Tir Glas gyda nhw ac ar yr un pryd yn gyfle i greu tamaid bach o flas Gŵyl Fwyd Llambed, sydd heb ddigwydd er 2019 oherwydd Covid. Mae datblygiadau gweledigaeth Canolfan Tir Glas wedi deillio yn rhannol o lwyddiant yr Ŵyl Fwyd yn Llambed ac yn gyfle i adeiladu ar hynny wrth ystyried pwysigrwydd  cynnyrch lleol a defnyddio bwyd fel ffocws i adfywio’r economi leol.

“Mae lleoliad y campws yn Llambed mor arbennig pan fod bwrlwm yno, a beth gwell na ffair fwyd i greu’r awyrgylch hwnnw. Mawr hyderaf bydd y gymuned leol yn cymryd mantais o hyn hefyd a dod draw i weld beth sydd ar werth.

“Mae croestoriad o gynhyrchwyr lleol yma sy’n cynnwys rhai sy’n mynychu Marchnad y Bobl ar y campws yn rheolaidd.  Dewch draw i ddysgu mwy. Bydd yma rywbeth at ddant pawb!”

Nododd Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws, fod y ffair fwyd yn “ddatblygiad arwyddocaol sy’n tanlinellu pwysigrwydd y berthynas sy’n bodoli rhwng y Brifysgol a’r dref.” 

Ychwanegodd fod gweledigaeth Canolfan Tir Glas yn “gyfrwng i’r dref a’r Brifysgol gydweithio’n agos er mwyn cyfrannu at adfywiad economaidd a chymdeithasol yn Llambed a’r cyffiniau. Mae’r ffair fwyd yn fan cychwyn ar gyfer gwireddu gweledigaeth lawer ehangach y bydd modd gweld ei dylanwad ar y dref am flynyddoedd lawer.”