HCC welcomes seven-month extension to herd screening programme

Yn dilyn ailbroffilio ac ymgynghori llwyddiannus â'r diwydiant amaethyddol, mae’r rhaglen Gwaredu BVD ledled Cymru wedi cyhoeddi estyniad o saith mis o sgrinio BVD ar gyfer ffermydd cig eidion a llaeth Cymru.

Mae Dolur Rhydd Feirysgol Buchol (BVD) yn atal system imiwnedd gwartheg, gan arwain at broblemau iechyd eraill a llai o ffrwythlondeb. Yn ogystal â chael effaith ar iechyd anifeiliaid, amcangyfrifir y gallai haint BVD parhaus gostio £4500 y flwyddyn ar gyfartaledd i fuches gig eidion yng Nghymru.

Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Gwaredu BVD estyniad i’r rhaglen o 31ain Awst 2020 i’r 31ain Mawrth 2021 er mwyn galluogi amser ychwanegol i rhanddeiliaid baratoi ar gyfer canlyniad posibl lle daw sgrinio a rheoli BVD yn ofyniad cyfreithiol. Rheolir y rhaglen gan Goleg Sir Gâr mewn partneriaeth â’r Coleg Brenhinol Milfeddygol, gyda chynrychiolaeth o Hybu Cig Cymru (HCC) a chyrff eraill y diwydiant ar y bwrdd cynllunio.

Dywed John Griffiths, Rheolwr Rhaglen Gwaredu BVD: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig cymorth pellach i filfeddygon i annog eu cleientiaid i sgrinio am BVD ac i roi amser ychwanegol i ffermwyr baratoi ar gyfer y dyfodol yn y cyfnod anodd hwn.”

Yn hanesyddol, roedd y rhaglen yn cynnig £500 tuag at y gost o ddod o hyd i anifeiliaid parhaol heintus (PI) ond mae hyn wedi cynyddu i £1000 erbyn hyn yn rhan o’r estyniad cyllid. Os yw’r fuches wedi sgrinio’n glir, mae hefyd yn bwysig i amddiffyn y statws trwy sicrhau bioddiogelwch y fferm.

Dr Rebekah Stuart, HCC Flock and Herd Health Executive

Dywed Dr Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC, “Mae’n dda i glywed bod dros 8,300 o ffermydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hyd yn hyn.”

“Y prif ddull o drosglwyddo BVD ar ffermydd yw trwy dda byw sydd wedi’u heintio’n barhaus,” esboniodd Rebekah. “Mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu geni gyda’r firws, ac yn ei ledaenu trwy gydol eu hoes.”

“Gyda dulliau rhagweithiol fel sgrinio ar gael drwy’r rhaglen hon gallwn leihau’r afiechyd yn fawr a’r gost i’r diwydiant,” dywedodd, “sicrhewch eich bod yn achub ar y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun.”

Ychwanegodd Rebekah, “Mae ymdrin ag afiechydon fel BVD yn un o’r camau mwyaf effeithiol y gallwn wneud i wella proffidioldeb a chynaliadwyedd cynhyrchu da byw yng Nghymru. Mae’n flaenoriaeth i HCC; mae rhaglen Gwaredu BVD yn cefnogi ein prosiect Stoc+ sy’n annog rheolaeth ragweithiol o iechyd anifeiliaid ar ffermydd.”

Mae 260 o ffermydd gwartheg a defaid ar draws Cymru yn rhan o brosiect Stoc+ sy’n un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a chaiff gefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, ac arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.