Sean Jeffreys a Elizabeth Swancott

Mae'r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter dros gyfnod o bum mlynedd gan Hybu Cig Cymru (HCC) i sicrhau bod y cadwyni sy’n cyflenwi cigoedd oen ac eidion Cymru yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol, bellach ar ei anterth gyda channoedd o ffermwyr, yn ogystal â phroseswyr, yn cymryd rhan mewn amryw o brosiectau.

Er mwyn helpu i gyflawni'r gwaith uchelgeisiol hwn, mae HCC wedi recriwtio dau o bobl sydd wedi graddio mewn amaethyddiaeth yn ddiweddar ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Harper Adams fel swyddogion prosiect.

Cefnogir y rhaglen gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.  Mae’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys tri phrosiect penodol. Mae'r rhaglen Stoc+ yn helpu milfeddygon a ffermwyr i gymryd camau rhagweithiol i sicrhau'r iechyd gorau posibl i anifeiliaid; mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yn archwilio'r dylanwadau amrywiol ar ansawdd bwyta cig oen; ac mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn cymell ffermwyr yr ucheldir i gofnodi perfformiad a gwella geneteg eu diadelloedd.

Cafodd Sean Jeffreys, sy'n hanu o Abertawe yn wreiddiol, ei recriwtio i weithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd a phrosiect Stoc+. Astudiodd ym Mhrifysgol Harper Adams lle graddiodd mewn Amaethyddiaeth a Marchnata. Fel rhan o'i astudiaethau, bu’n archwilio i gynaliadwyedd ffermio defaid yn yr ucheldir.  Mae bridio defaid o ddiddordeb iddo, ac mae ganddo brofiad ymarferol o weithio ar ffermydd.

Graddiodd Elizabeth Swancott yn ddiweddar mewn Amaethyddiaeth a Busnes o Brifysgol Aberystwyth, ar ôl cael ei magu ar fferm gig eidion a defaid ei theulu ger Trefyclo ym Mhowys.  Bydd Elizabeth yn helpu i weithredu Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, lle bydd yn manteisio ar ei phrofiad o astudio gwyddor cig ar gyfer ei gradd a’i phrofiad gwaith yn y sector prosesu, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith ar Stoc+.

Dywedodd Rheolwr Datblygu’r Diwydiant a Rhyngberthynas yn HCC, John Richards, fod y ddau recriwt newydd yn bobl ddelfrydol i ymuno â thîm y Rhaglen Datblygu Cig Coch.

“Gan fod y prosiectau bellach wedi bod yn rhedeg am flwyddyn, gyda mwy a mwy o ffermwyr yn ymuno, roedd angen i ni gryfhau ein tîm i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r Rhaglen uchelgeisiol hon,”

Meddai John.

“Rydym yn ffodus bod gennym brifysgolion gerllaw sy'n cynnig cyrsiau amaeth uchel eu parch, ac felly mae Elizabeth a Sean yn cyrraedd gyda sylfaen gadarn yn eu priod feysydd.”

Ychwanegodd:

"Mae'r tri phrosiect yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch i gyd yn edrych ar ffyrdd o gryfhau'r diwydiant - i gynyddu proffidioldeb a chynaliadwyedd o'r fferm a thrwy’r gadwyn gyflenwi, mewn ffyrdd sydd hefyd yn gwneud cigoedd oen ac eidion Cymru yn fwy deniadol i'r defnyddiwr. Y nod yw gwneud ein sector mor wydn â phosib wrth i ni wynebu cyfnod o ansicrwydd.”