Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn lansio Cyllid Grant newydd, yn rhan o gynllun LEADER Cynnal y Cardi, a fydd yn cefnogi gweithgarwch LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.

Bydd y cyllid yn darparu refeniw ariannol i gefnogi prosiectau peilot, astudiaethau dichonoldeb, hyrwyddiad, gweithgareddau rhwydweithio a syniadau hyfforddi a mentora. Croesewir ceisiadau gan sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd yn rhaid iddynt fodloni meini prawf a blaenoriaethau’r Grŵp Gweithredu Lleol.

Bydd y Cyllid Grant yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol o Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi:

  • cefnogi gweithgarwch gyda’r nod o wella cyfleoedd i ddatblygu economi gylchol Ceredigion
  • cefnogi ymyrraeth gynnar ar gyfer datblygu gweithgarwch cyn-fasnachol gyda’r bwriad o feithrin cyfleoedd entrepreneuriaid
  • cryfhau gwytnwch cymunedol gan ganolbwyntio ar rôl y Cynghorau Tref a Chymuned wrth gefnogi ac ymgysylltu â’u cymunedau
  • meithrin cyfleoedd i ail-ymgysylltu â phobl ac ail-rymuso gweithgarwch cymunedol yn dilyn COVID-19 a threialu defnydd arloesol ar gyfer cyfleusterau cymunedol

Cefnogir Cyllid Grant LEADER Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, gan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio:

“Rydym yn deall fod COVID-19 wedi gwneud y ddwy flynedd ddiwethaf yn gyfnod anodd i'n sir ac, yn sgil y pandemig, mae blaenoriaethau Strategaeth Datblygu Lleol Ceredigion wedi cael eu hadolygu ym mis Medi 2020. Mae’r cynllun grant newydd hwn yn rhoi cyfleoedd i ni fynd i'r afael â materion a datblygu cyfleoedd yn ein cymunedau yn dilyn COVID-19 er mwyn cryfhau ein gwytnwch. Rwy’n eich annog i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn.”

Y dyddiad cau cyntaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 17 Ionawr 2022. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Bydd angen i chi drafod eich syniadau â’r tîm. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bost (cynnalycardi@ceredigion.gov.uk) neu ewch i wefan www.cynnalycardi.org.uk am ragor o wybodaeth.