Hour Eyes

Mae Hour Eyes, sef arddangosfa celf gymunedol, yn cael ei dangos yn Nhŷ Penallta, Parc Tredomen, hyd at ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2019. Arweiniwyd y cynllun celf gymunedol hwn, sy’n flwyddyn o hyd, gan yr arlunydd byd-enwog Tracey Moberly a Chymuned Fochriw yn ne Cymru.

Yn ystod 2018 treuliodd y gymuned hon flwyddyn yn ffotograffio eu bywydau, eu hanes a’u hangerdd. Fel cyfangorff, cyflwynwyd dros 2,000 o luniau i gyfrifon Twitter ac e-bost y cynllun, gan bortreadu popeth: waliau o gerrig sychion hynafol ar y mynydd, nentydd byrlymog sy’n rhedeg tuag at Gaerdydd, bywyd ysgol, teithiau siopa a chofion annwyl.

Ymunodd eraill ar y daith hon gyda phobl Fochriw. Cyfrannodd y cynllun Kick-Plate weithdai ffotograffiaeth analog ble wnaeth y pentref helpu i ddatblygu’r lluniau a dynnwyd a’u cyflwyno fel arddangosfa gymunedol.

Fe wnaeth Gŵyl Ffilm Ddogfen Ryngwladol Cymru gweithio gyda’r ysgol leol i ddod â cherdd Idris Davies, Gwallia Deserta XXVI, yn fyw. Cyflwynwyd y ffilm fer ‘Fochriw’ am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ddogfen Ryngwladol Cymru.

Cyflwyna’r holl gynnyrch creadigol hwn, y ffilm, yr arddangosfa a’r ffotograffau, fewnwelediad preifat i fywydau’r gymuned fywiog hon. Dywedodd yr arlunydd Tracey Moberly, arweinydd creadigol y cynllun, ‘Roedd yn fraint cael gweithio gyda’r gymuned ar y cynllun hwn, i rannu eu hanesion ac i herio rhai o’r canfyddiadau mae ein cymunedau’n eu dioddef. Ysbrydoledig oedd cael rhannu a thystio peth bach o’r dalent sydd y tu mewn i bob un ohonom.’

Ariannwyd y cynllun trwy Raglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd ar gyfer Caerffili a Blaenau Gwent trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Dywedodd arweinydd y cynllun, Kevin Eadon-Davies, ‘Cynlluniwyd y Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd er mwyn cefnogi cynlluniau, syniadau a mentrau ar draws ardaloedd gwledig Caerffili a Blaenau Gwent ac rydym yn llawn edmygedd o fedrusrwydd, angerdd a brwdfrydedd cymuned Fochriw wrth iddynt ddysgu, rhannu ac archwilio bywyd pentrefmewn cymuned blaenau modern ac i rannu hwn trwy gyfres o weithgareddau ar-lein ac arddangosfeydd. Gall talent a sgiliau ein cymunedau gwledig ddisgleirio pan gânt y cyfle a'r lle i’w wneud.’

Gallwch ddod o hyd i’r lluniau a mwy ar Instagram a gwylio’r ffilm fer Vimeo.