Dylan a'r Moch

Bydd chwech o aelodau CFFI Cymru yn gynhyrfus yr wythnos hon wrth iddynt groesawu’r moch newydd i’r fferm.

Mae enillwyr y Gystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFFI Cymru wedi dechrau ar yrfa gyffrous o gadw moch wythnos yma, wedi i bum mochyn gyrraedd y fferm i’w magu

Y chwe unigolyn a gafodd eu dewis yn enillwyr gan y beirniaid yw Dylan Phillips o Bwlch y Rhandir, Llangwyryfon, Eiry Williams o Dy Newydd Langwyryfon, Luned Jones o Lanwnnen, Llanllwni, Elliw Roberts o Gaergybi ar Ynys Môn, Sally Griffiths o Presteigne, Maesyfed a Laura Evans o Gwynfa, Llangwyryfon.

Cyhoeddwyd enwau'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn ystod Sioe Rithwir Frenhinol Cymru RWAS eleni ac ers hynny maent wedi bod yn aros yn eiddgar am eu gwobr - dyfodiad eu moch.

Cyn derbyn eu moch, mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eisoes wedi dechrau eu rhaglen hyfforddiant pwrpasol, wedi'i dylunio a'i darparu gan Menter Moch Cymru i helpu i sicrhau eu bod yn hollol barod ar gyfer eu menter newydd.

Mae'r hyfforddiant a ddarparwyd eisoes wedi cynnwys hwsmonaeth a lles moch, deddfwriaeth a bwyd anifeiliaid / maeth, gyda sesiynau hyfforddi ychwanegol yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn lle bydd siaradwyr arbenigol yn ymdrin â gwahanol agweddau ar gynhyrchu moch, paratoi mocha r gyfer sioeau a marchnata. Mae'r sesiynau hyfforddi hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan geidwaid moch profiadol sy'n trosglwyddo'r wybodaeth y maen nhw wedi'i hennill dros y blynyddoedd.

Wrth i sgiliau’r ffermwyr ifanc ddatblygu, byddant yn parhau i dderbyn cefnogaeth a mentora gan Menter Moch Cymru.

Elliw a Moch

Elliw Roberts, o Brynsannan, Caergybi ar Ynys Môn, oedd un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol  ac mae’n cyfaddef iddi fod yn hynod gyffrous i weld y moch yn cyrraedd ei fferm wythnos diwethaf:

“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cadw moch ar y fferm, a’r unig ffordd y gallwn i wneud hynny oedd ceisio yn y gystadleuaeth hon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her dros yr wythnosau nesaf. Mae'r sesiynau hyfforddi wedi cychwyn ac maent mor addysgiadol, ni fyddwn a syniad sut i fagu moch heb gefnogaeth y fenter hon.

“Bydd hi mor gyffrous mynd i’r Ffair Aeaf i arddangos fy moch,” ychwanegodd.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru:

“Mae'r moch i gyd yn ymgartrefu'n dda, ac mae'n wych gweld y ffermwyr ifanc hyn yn datblygu i fod yn geidwaid moch newydd. Nod yr hyfforddiant a'r gefnogaeth o brosiect Menter Moch Cymru yw rhoi'r holl offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer y fenter newydd hon a bydd yn parhau yn ystod y flwyddyn hon. "

Dywedodd Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru, 

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Menter Moch Cymru eto i hyrwyddo cadw moch fel menter yn y dyfodol i’n haelodau. Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn llawn brwdfrydedd ac ymroddiad i'r bennod newydd hon yn eu bywydau, ac mae'r cyffro eisoes yn adeiladu ar gyfer y rownd derfynol!”

“Mae'r rhaglen Menter Moch Cymru yn fenter wych i aelodau o CFfI Cymru. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan ddatblygu sgiliau rheoli busnes a da byw. Mae'n rhoi cyfle unigryw a chyffrous i aelodau ennill profiad ymarferol o gadw moch, a hyd yn oed yn rhoi cyfle i'r ffermwyr ifanc dan sylw ddatblygu menter fusnes newydd a chyffrous ac mae llawer o'n cyn-gystadleuwyr wedi'i defnyddio'n llwyddiannus, ”ychwanegodd.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.