pigwr sbwriel gyda bagiau sbwriel a chysgu y tu allan i'r ganolfan casglu sbwriel

Torfaen Ddiwastraff yn ymuno â nifer gynyddol o hybiau codi sbwriel sydd yn agor ar draws Cymru.

Mae hyb codi sbwriel newydd wedi agor yn Nhorfaen Ddiwastraff yng Nghwmbrân sydd yn galluogi’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i gael benthyg cyfarpar codi sbwriel i lanhau eu hardal leol.

Mae Torfaen Ddiwastraff yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen ar bobl leol i gynnal sesiynau glanhau yn ddiogel a chadw eu cymuned yn edrych yn hardd. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau.

Mae’r hybiau codi sbwriel wedi cael eu sefydlu gan Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o fenter Caru Cymru. Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.

"Rydym wrth ein bodd yn sefydlu hyb codi sbwriel! Dechreuodd Torfaen Ddiwastraff fel gorsaf ail-lenwi ecogyfeillgar o sied ar waelod fy ngardd ac mae wedi ehangu i fod yn siop ddiwastraff lawn. Rydym yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn Nhorfaen trwy leihau faint o wastraff untro sydd yn y sir. Mae llawer o bobl yn cydweithio i wneud newidiadau bach yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth enfawr. Os hoffech wneud gwahaniaeth i’ch cymuned, galwch heibio am fwyd ecogyfeillgar, adlenwadau cartref ac i logi cyfarpar codi sbwriel."

Dywedodd Lauren Morse, Sylfaenydd Torfaen Ddiwastraff

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I ganfod mwy am hybiau codi sbwriel ar draws Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

I ganfod mwy am Torfaen Ddiwastraff, ewch i’w gwefan.