Sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd a diod gogledd Cymru yn rhan ganolog o gynlluniau adfer wedi’r pandemig oedd prif neges cynhadledd rithiol gynhaliwyd yr wythnos hon.

Daeth cynhyrchwyr, prynwyr ac arbenigwyr o’r sector bwyd ynghyd yn y digwyddiad ar-lein hwn wedi ei drefnu gan Môn Larder. Y nod oedd trafod ffyrdd y gall cynhyrchwyr lleol gael mynediad at arlwyo sector cyhoeddus fel rhan o unrhyw adferiad yn sgil Covid19.

Yn ddilyniant i Expo Caffael Cyhoeddus gynhaliwyd nôl ym mis Chwefror, clywodd cynhadledd yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau bach a chanolig i gael mynediad i gaffael sector gyhoeddus. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i fynychwyr ddysgu am newidiadau i batrymau prynu bwyd ymysg cwsmeriaid archfarchnadoedd, cynlluniau a phrosiectau sydd eisoes ar y gweill, yn ogystal ag astudiaethau achos diweddar.

Wrth sgwrsio cyn y gynhadledd dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gweledig:

“Rydym yn awyddus i weithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys Môn Larder, ar fentrau i sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd a diod rhanbarthol yn gallu cael mynediad at y farchnad sector gyhoeddus. Mae’n gyfle enfawr gyda photensial sylweddol ac rydym yn credu y gall fod yn rhan bwysig o gynlluniau adfer ac ail adeiladu wedi Covid, gan greu swyddi, hyrwyddo arloesedd a chryfhau diogelwch bwyd."

“Gyda phatrwm prynu pobl yn newid a mwy o bwyslais ar ‘brynu’n lleol’, rhaid i ni sicrhau bod yr egwyddor hon hefyd yn berthnasol i sefydliadau mawr sector gyhoeddus wrth iddyn nhw gaffael bwyd a diod.”

Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth Grŵp Llandrillo Menai, yw cadeirydd Môn Larder, mae’n egluro:

“Gyda chynaladwyedd ar frig yr agenda a mwy o bwysau nag erioed ar ein cadwyni cyflenwi bwyd mae’n gwneud synnwyr llwyr i ni wneud pob dim y gallwn ni i geisio cwtogi’r cadwyni hynny – a symud y pwyslais i’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yma ar ein stepen drws."

“Yn Môn Larder rydym yn cefnogi ac yn galluogi cyflenwyr i wneud hyn ac yn hwyluso’r cyswllt rhwng prynwyr, cyflenwyr a phartneriaid allweddol eraill – roedd y gynhadledd yr wythnos hon yn gyfle i ni ymestyn at y rhanddeiliad yma unwaith eto. Mae cydweithredu yn hanfodol i’r ffordd rydym yn gweithio a bydd yn dod yn thema bwysicach fyth wrth i ni wynebu heriau economaidd newydd dros y flwyddyn nesaf.”

Clywodd y gynhadledd am un enghraifft o gydweithio llwyddiannus ddaeth i fodolaeth er wyn taclo’r heriau wynebodd rhai cymunedau yn ystod y cyfnod clo. Yn bartneriaeth rhwng  Menter Môn a Bwyty Dylan’s, roedd ‘Neges’ yn paratoi a dosbarthu parseli a phecynnau bwyd i bobl fregus ac i staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd yng Ngwynedd a Môn.

Dafydd Gruffydd, yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, dywedodd:

“Trwy brosiect Neges fe welon ni gynhyrchwyr bwyd, cwmnïau cyflenwi yn ogystal â dau awdurdod lleol yn gweithio efo’i gilydd er mwyn cwrdd â’r angen ddaeth o ganlyniad i’r cyfyngiadau’r pandemig. Mae’n dangos yr hyn a allwn ei gyflawni trwy gydweithio a’r gwersi cadarnhaol y gallwn eu dysgu i’r dyfodol.”

I gloi’r digwyddiad ar-lein daeth apêl i’r rhai oedd wedi ymuno yn y sesiwn i  barhau gyda’r sgwrs er mwyn atgyfnerthu themâu’r diwrnod sef ‘prynu’n lleol’ a phwysigrwydd cydweithio.