Mae angen ffordd ddiduedd ar fridwyr defaid i ddod o hyd i hyrddod a mamogiaid yn y ddiadell sydd â'r potensial gorau ar gyfer bridio; bydd lansiad y llyfryn newydd yn gymorth i ffermwyr wrth iddyn nhw symud tuag at fesur a rhoi hwb i berfformiad y diadelloedd pedigri.
Yn ddiweddar, cafodd ‘Cofnodi perfformiad y ddiadell bedigri’ ei lanso gan Hybu Cig Cymru (HCC) fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd, sef prosiect i gyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd mynydd yng Nghymru er mwyn cryfhau’r sector defaid trwy wella geneteg yn yr hirdymor.
Mae'r llyfryn yn rhoi cyngor ar sut i lunio a defnyddio data ar 'ystadegau hanfodol' defaid fel cyfraddau twf ŵyn a nodweddion mamol y mamogiaid, yn ogystal â dyfnder cyhyrau a chynnwys braster - sy'n fesurau pwysig wrth gynhyrchu ŵyn sy'n cwrdd â gofynion y defnyddiwr ac yn gwella perfformiad ariannol y fferm.
Un ffermwr a welodd welliant o ganlyniad i gofnodi perfformiad yw Dyfed Davies o Eisteddfa Fawr yn Sir Benfro, lle mae ef a’i deulu’n cadw diadell o famogiaid Mynydd Cymru Tregaron ar fynyddoedd y Preselau. Ymunodd â’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn 2019.
Dywedodd Dyfed: “Y rhwystr mwyaf o ran dechrau cofnodi perfformiad ein diadell oedd y gwaith ychwanegol yn ystod y cyfnod wyna. Diolch i'r dechnoleg TSU a gynigir gan y Cynllun Hyrddod Mynydd, bu modd i ni gofnodi perfformiad y ddiadell oherwydd mae’r dechnoleg yn golygu y gall y mamogiaid ddal i wyna ar y mynydd yn eu cynefin naturiol heb ormod o fugeilio."
“Rydyn ni’n canolbwyntio ar rinweddau mamol y mamogiaid a phwysau’r ŵyn yn 8 wythnos oed er mwyn ceisio cynhyrchu anifeiliaid amnewid sydd yn galed ac effeithlon ac sy’n cynhyrchu ŵyn trymach i’w gwerthu.”
Dywedodd Sean Jeffreys, Swyddog Rhaglen HCC sy’n gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd: “Rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr i gofnodi perfformiad eu diadelloedd."
“Profwyd bod cofnodi perfformiad yn ffordd werthfawr o wella cynhyrchedd mewn amryw o systemau bridio defaid. Mae’r datblygiadau technolegol a gafwyd yn ddiweddar – ac a welwyd yn y Cynllun Hyrddod Mynydd – wedi ei gwneud yn haws i bob ffermwr defaid gofnodi perfformiad.”
Mae modd cael hyd i’r llyfryn dwyieithog ar wefan HCC yma.
Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.