Award success for Black Mountains Land Use Partnership Mountain and Moorland Ambassadors

Llongyfarchiadau i Lysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel gan y beirniaid yn y categori addysg neu hyfforddiant cynaliadwy yng Ngwobrau’r Academi Gynaliadwy.

Roedd y Cadeirydd, cynrychiolwyr y prosiect a’r Llysgenhadon yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yn Stadiwm Principality Caerdydd ar ddydd Iau, 28 Tachwedd.

‘Mae Gwobrau’r Academi Gynaliadwy yn dathlu rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth mewn cynaliadwyedd o bob cwr o Gymru. Mae’r Gwobrau yn cydnabod y bobl, y prosiectau a’r mentrau gwych sy’n cyfrannu at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol, a’r pum Ffordd o Weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.’

Dywedodd Phil Stocker, Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, “mae cydnabod yn genedlaethol y rôl sydd gan y Bartneriaeth yn arwain y ffordd o ran arloesedd a chynaliadwyedd, ac wrth ddarparu addysg a hyfforddiant cynaliadwy, yn gamp eithriadol ac yn un i’w dathlu!” 

Nod cynllun Llysgenhadon y Mynydd a’r Rhostir yw ymgysylltu â phobl o fusnesau twristaidd lleol a’u hyfforddi, gan eu helpu i gyfleu negeseuon am gynaliadwyedd i’w cwsmeriaid, fel y gallan nhw, yn eu tro, ymweld a mwynhau ardal y Mynyddoedd Duon mewn modd cyfrifol. Mae hon yn fenter arloesol sydd, am y tro cyntaf, yn dwyn ynghyd fusnesau lleol, porwyr, tirfeddianwyr a chyrff rheoleiddio i ddeall materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ac i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu cynaliadwyedd y Mynyddoedd Duon.

Hyd yma, mae’r prosiect wedi gwneud cynnydd gwych ac yn rhagori ar lawer o’r targedau allweddol a osodwyd yn wreiddiol, gan gynnwys gweithgareddau hyfforddi a’r cyfraniad at iechyd a lles. Mae cyfanswm o 56 Llysgennad wedi cael eu hyfforddi. Maent yn dod o amrywiaeth eang o fusnesau lleol, ac yn rhoi cyfle enfawr i ymgysylltu’n ehangach ac i godi ymwybyddiaeth o’r ardal eiconig hon. 

Ar hyn o bryd, mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn darparu prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwyedd gwerth £1m. Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.