Here for You Adult and Dog

O ganlyniad i'r prosiect peilot Yma i Chi, mae'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael am ddim yng Ngheredigion wedi ehangu. Mae'r prosiect peilot, a dderbyniodd gefnogaeth gan Cynnal y Cardi wedi rhoi cyfle i unrhyw berson ifanc gael mynediad at wasanaeth therapi siarad yn gyflym ac yn gyfrinachol yn y sir.

Tractor

Roedd y prosiect Yma i Chi gan Elusen Ieuenctid Ceredigion - Area 43, yn darparu gwasanaeth cwnsela ar-lein hygyrch am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed yng Ngheredigion, gyda ffocws ar y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell neu na allai fynd i leoliad corfforol i dderbyn ymyrraeth gwnsela.

Dywedodd defnyddiwr gwasanaeth: “Rwyf mor falch fy mod wedi dod o hyd i’r gwasanaeth hwn gan fy mod wir angen cwnsela. Rwyf wedi bod ar restr aros y GIG ers blwyddyn a hanner."

Wrth i gloi Covid-19 ddod â'r gallu i ddarparu cwnsela mewn lleoliad corfforol i ben, cafodd y gwasanaeth Yma i Chi ei gydnabod gan y sector gofal sylfaenol lleol fel adnodd amhrisiadwy i gefnogi pobl ifanc a oedd yn mynegi materion iechyd meddwl lefel isel i ganolig. Roedd GP’s wrthi’n cyfeirio pobl ifanc at y gwasanaeth o ganlyniad i adborth a gawsant gan gleifion eraill a oedd wedi ymgysylltu â’r prosiect.

Dywedodd Rachel Eagles, Prif Swyddog Gweithredol Area 43:

“Mae'r Gwasanaeth Yma i Chi, a ariennir gan Cynnal Y Cardi, wedi helpu Area 43 i brofi model gweithredu ar gyfer cefnogaeth i bobl ifanc. Oherwydd fe gweithredu’r prosiect hwn yn llwyddiannus, mae Area 43 wedi gallu ychwanegu'r prosiect hwn at ei gyfres o wasanaethau sy'n helpu pobl ifanc i fynd i'r afael â'u hanghenion iechyd meddwl. "

Mae effaith gadarnhaol, adborth a phrofiad y defnyddwyr gwasanaeth o'r prosiect Yma i Chi wedi bod yn ffactor allweddol yn y comisiynu uniongyrchol, gan Glystyrau Gofal Sylfaenol Gogledd a De Ceredigion, ar gyfer y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl a ddarperir gan Area 43.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio: 

“Mae'r prosiect arloesol Yma i Chi wedi gwneud gwaith hanfodol wrth gefnogi iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Ngheredigion. Mae pawb sy'n ymwneud â chynllun LEADER Cynnal y Cardi ar gyfer Ceredigion yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi gwasanaeth mor amhrisiadwy sy'n gwneud gwahaniaeth mor fawr yng Ngheredigion, ac rydym yn hynod falch bod y gwasanaethau a ddarperir o ganlyniad i'r prosiect yn gallu i barhau trwy'r comisiynu uniongyrchol a dderbyniwyd.”

Capture

Cefnogir y cynllun LEADER Cynnal y Cardi ar gyfer Ceredigion, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Area 43 ewch i www.area43.co.uk. I ddarllen yr adroddiad llawn ar weithgareddau a llwyddiant y prosiect hwn, ewch i https://www.cynnalycardi.org.uk/gweithgareddau