Dr Manod Williams y tu allan i Brifysgol Aberystwyth

Mae prosiect ymchwil mawr sy’n cael ei arwain gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio llyfryn newydd sydd â’r nod o lywio a chynyddu ymwybyddiaeth o’r ffactorau prosesu a’r ffactorau ar y fferm sy’n effeithio ansawdd cig oen.

Lansiwyd Ffactorau sy’n Effeithio ar Gig Oen wythnos diwethaf gan Brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda grŵp o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf. 
Mae Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod Cig Oen Cymru yn cadw ei enw da ledled y byd trwy astudio hoffterau defnyddwyr a thrwy ddadansoddiad gwyddonol o samplau cig oen.

Esboniodd Elizabeth Swancott, Swyddog Rhaglen Cig Coch HCC,

“Mae’r Prosiect yn ymchwilio i ffactorau ar y fferm a ffactorau prosesu a all gael dylanwad ar ansawdd bwyta ac ansawdd maethol Cig Oen Cymru PGI. Mae’r llyfryn newydd hwn yn gobeithio llywio a chodi ymwybyddiaeth o’r ffactorau sy’n gwella ansawdd y cig ar hyd y gadwyn gyflewni.

“Gellir dod o hyd i’r ffactorau dylanwadol hyn ar y fferm, yn ystod cludo da byw ac yn ystod prosesu a phecynnu hyd at pan fydd y cig yn cael ei goginio gan y cwsmer. Mae Ffactorau sy’n Effeithio ar Gig Oen, yn archwilio’r agweddau hyn ac mi fydd yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o gynlluniau gradd ac y neu helpu gyda’u hastudiaethau.”

Ychwanegodd Dr Manod Williams, Darlithydd Gwyddor Da Byw yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth,

“Mae hi’n hynod o bwysig bod ein myfyrwyr amaeth yn cael blas ar gynhyrchinat cig o’r fferm, drwy’r cyfnod prosesu, i blât y cwsmer. Mae cymaint o ffactorau yn cael dylanwad clir ar ansawdd y cig ac mae rheiny wedi’u trosglwyddo’n effeithiol iawn i’r myfyrwyr gan HCC heddiw.

“Bydd y sesiwn heddiw o fudd i’n myfyrwyr gan eu bod ar hyn o byrd yn dysgu am y ffactorau gwyddononol, ar y fferm, yn y lladd-dŷ, ac ar y plat sy’n cael effaith ar ansawdd y cig. Mae clywed y wybodaeth wrth HCC heddiw yn atgyfnerthu’r wybodaeth y maent yn eu derbyn yn y dosbarth. Bydd y llyfryn hwn hefyd yn cyfrannu at atgyfnerthu’r neges.”

Mae’r llyfryn ar gael ar wefan HCC yma.

Mae’r Prosiect  gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.