Stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru

Mae’n hanfodol fod ffermwyr yn rhoi sylw i reoli llyngyr yn eu defaid oherwydd mae’r cyfrifiad diweddaraf o wyau llyngyr yn gymharol uchel – ar ddechrau cyfnod gwlyb ar ôl tywydd cynnes.  

Mae ŵyn yn fwy tueddol yn ystod misoedd yr haf o ddioddef o heintiadau sy’n cael eu hachosi gan lyngyr.  Mae tymheredd yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad a goroesiad wyau heintus a larfâu ar dir pori, ac mae tywydd cynnes yn ffafriol iddyn nhw. Felly, gallai'r tywydd cynnes a gafwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf fod wedi arwain at fwy o wyau a larfâu ar y borfa. Gallai hyn arwain at broblemau i ffermwyr defaid yng Nghymru oherwydd mae yna fwy o bori gan ŵyn sydd newydd gael eu diddyfnu ac sydd heb ddatblygu imiwnedd eto rhag y llyngyr.

Dyna pam mae un o brosiectau Hybu Cig Cymru (HCC), sef Stoc +, sy’n cael ei ariannu trwy Gronfa Cymunedau Gwledig – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru gan gyllid o Gronfa Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yn bwysig. Mae’n mynd i'r afael â chlefydau heintus fel llyngyr ac yn cynghori ar driniaeth effeithiol trwy annog cynhyrchwyr i gael cynllun iechyd rhagweithiol ar gyfer eu ffermydd.

Lowri Reed o HCC yw Swyddog Prosiect Stoc+. Dywedodd:

“Mae'n bwysig cael cynllun rheoli parasitiaid sy'n rhan o gynllun cyffredinol i reoli iechyd anifeiliaid yn y flwyddyn sy’n dod. Mae rheoli llyngyr yn hanfodol i gael ŵyn sy’n tyfu’n dda a ddiadell ddefaid sy’n broffidiol.  Gall hyd yn oed ychydig o lyngyr amharu ar berfformiad a chynyddu costau.

“Dylai ffermwyr gofio, fodd bynnag, na ddylen nhw orddefnyddio moddion i reoli llyngyr rhag i’r llyngyr ddatblygu ymwrthedd. Mae angen i ni weithredu nawr fel bod modd rheoli llyngyr yn effeithiol yn y dyfodol – a dyna pam y bydd Stoc+ o fudd i'n diwydiant.”

Yn ystod mis Gorffennaf, agorwyd cyfnod i ffermwyr i fynegi diddordeb yn y prosiect Stoc+, a daeth nifer o filfeddygon i stondin HCC yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd er mwyn trafod cynllunio iechyd anifeiliaid a dulliau o atal afiechydon cyffredin yn y praidd a’r buches.

Ychwanegodd Lowri Reed:

“Rydym yn falch bod cymaint o ffermwyr Cymru yn awyddus i gymryd rhan ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chynifer â phosib ohonyn nhw dros y blynyddoedd nesaf.

Mae HCC wedi cyhoeddi nifer o lyfrynnau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid, gan gynnwys ‘Rheol Llyngyr mewn Defaid’. Mae hwnnw’n amlinellu egwyddorion arferion gorau ac yn nodi bod rheoli llyngyr mewn ffordd gyfrifol yn dibynnu ar ddeall y peryglon sy’n deillio o borfa halogedig, ynghyd â deall sut mae cael pori glanach.  Mae hynny’n golygu defnyddio cyfrifiadau wyau ysgarthol ar adegau priodol o'r flwyddyn a defnyddio'r moddion cywir ar gyfer yr anifail priodol ar yr adeg iawn.

“Os yw llyngyr yn broblem ar eich fferm, rhowch gynnig ar y Cynllun Tri-Phwynt ar gyfer triniaeth effeithiol,”

Meddai Lowri Reed.

“Pwyswch yr ŵyn sydd angen eu trin a defnyddiwch y dos sy’n cael ei argymell. Storiwch y cynhyrchion yn gywir a rhowch sylw i’r dyddiad olaf i'w defnyddio bob tro. Cadwch yr offer ar gyfer dosio a phigiadau mewn cyflwr da a glanhewch nhw  ar ôl eu defnyddio."