Alun Evans, Stoc+ Vet Ambassador

Mae prosiect iechyd anifeiliaid wedi croesawu llysgennad milfeddygol newydd i gefnogi’r gwaith rhagweithiol o gynllunio iechyd anifeiliaid ar ffermydd cig eidion a defaid yng Nghymru.

Ymunodd Alun Evans, sy'n filfeddyg gyda Milfeddygon Neuadd y Farchnad, Sanclêr, â tîm llysgenhadon Stoc+ ychydig fisoedd yn ôl.  Fel rhan o’i ddyletswyddau bu’n defnyddio fideos ar-lein i gynghori ffermwyr ynghylch brechu.

Ers dechrau’r cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19, mae Llysgenhadon Milfeddygol Stoc+ wedi mabwysiadu dull gwahanol o hyrwyddo cynllunio iechyd anifeiliaid rhagweithiol trwy rannu cyngor ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP).

Mae Stoc+, sy’n cael ei gydlynnu gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn anelu at wella iechyd cyffredinol diadelloedd a buchesi ar ffermydd Cymru. Yn y pen draw, y nod yw gwneud cynhyrchu’n fwy effeithiol trwy gynllunio iechyd anifeiliaid yn well.

Yn ôl Alun Evans: “Mae brechu rhag afiechydon clostridiol yn hanfodol i ffermwyr cig eidion a defaid yng Nghymru. Yn anffodus, un o’r arwyddion cyntaf o glefyd clostridiol yw marwolaeth sydyn, ac felly mae gwybod yr amser gorau i roi brechiadau yn allweddol ar gyfer buches neu ddiadell iach.

“Mae brechiadau’n rhan bwysig o reoli clefydau, ond mae yna ffactorau eraill i'w hystyried.  Mae’r rhain yn cynnwys iechyd cyffredinol yr anifail a gwrthgyrff penodol i'r clefyd."

“Fel rheol, mae angen brechu gwartheg a defaid ddwywaith – gyda bwlch o rhwng pedair a chwe wythnos rhwng y brechiadau. Gall peth imiwnedd gael ei drosglwyddo o’r famog i’r oen, ond nid yw’n para am yn hir, ac felly mae'n bwysig brechu ŵyn wrth iddyn nhw dyfu.”

Dr Rebekah Stuart, HCC Flock and Herd Health Executive

Dywedodd Dr. Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC: “Ein cyngor i ffermwyr sy’n rhan o brosiect Stoc+ yw y dylen nhw ddiweddaru eu cynlluniau iechyd a dilyn yr amserlen frechu a luniwyd ar eu cyfer yn ystod yr ymweliadau milfeddygol. I gael cyngor pellach, dylai ffermwyr ystyried ymgynghori â'u milfeddyg i drafod y ffordd orau ymlaen.”

Mae Stoc+ yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a chaiff gefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.